Wrth gwrs yr oeddwn wedi bod yn ymwybodol o Daniel Owen, un o lenorion mwyaf adnabyddus y gogledd-ddwyrain, er pan oeddwn yn hogan ifanc.
Fel rhywun sy’n mynychu Eisteddfod Genedlaethol ers rhai blynyddoedd bellach, ac yn cymryd ychydig o ddiddordeb yn y llyfrau testunau a chyfansoddiadau, roeddwn hefo rhyw syniad amwys ei fod yn nofelydd Cymraeg, o’r ffaith fod yna ‘Wobr Goffa Daniel Owen’.
Ac yn ystod y misoedd diwethaf, rwy’ wedi bod wrthi’n gosod fy mhamffled dwyieithog o farddoniaeth mewn siopau llyfrau, gan gynnwys Siop y Siswrn yn yr Wyddgrug, sef yr ardal lle bu Daniel Owen yn byw, ac mae yna gyfeiriadau niferus yn y tirlun ato.
Ond rhaid cyfaddef, tan rai wythnosau yn ôl doedd fawr o syniad gin i am waith na bywyd Daniel Owen… ddim hyd yn oed digon i ddeall taw ar ôl un o’i lyfrau y cafodd Siop y Siswrn ei enwi! Yn wir, dwi’n cofio fi a fy mrawd ers talwm yn ceisio dyfalu beth oedd arwyddocâd ‘Siswrn’ i siop lyfrau Gymraeg!
Ond newidiodd hyn oll er gwell rai wythnosau yn ôl, pan gefais fy ngwahodd i gynnal gweithdai creadigol hefo rhai o ddisgyblion Ysgol Maes Garmon, fel rhan o’r paratoadau at Ŵyl Daniel Owen, sy’n cael ei chynnal yn yr Wyddgrug yn flynyddol.
Wel, os am drafod llenyddiaeth yn ymwneud â Daniel Owen hefo pobol ifanc, graff â’i meddyliau miniog, cwic, da o beth fyddai gwneud bach o ymchwil, ynte? Do’n i ddim eisiau ymddangos yn anwybodus!
Bardd ac awdur
Porais wefan y gymdeithas sy’n trefnu’r ŵyl, a des i wybod ychydig am hanes ei deulu, oedd yn lowyr, a’r trasiedi o golli ei dad a dau o’i frodyr mewn damwain ym mhwll glo Argoed.
Bu’r teulu felly yn dlawd, ond yn ffodus i dderbyn cefnogaeth trwy Gapel Bethesda, yr Wyddgrug, yr oedd ei fam yn perthyn iddo. Aeth yn brentis i siop teiliwr John Angell Jones, fuodd yn bregethwr, a chafodd ei annog i ddarllen ac ysgrifennu’n greadigol.
Cafodd ei daro gan salwch yn ddeugain oed, ac yn dilyn hynny bu’n byw hefo afiechydon cyson, ond yn sgil hyn, ffynnu wnaeth ei waith creadigol.
Cafodd rhai o’i bregethau a straeon o’r capel eu cyhoeddi – Offrymau Neillduaeth; Sef Cymeriadau Beiblaidd a Methodistaidd (1879), ac yna aeth ati i gyhoeddi’r nofelau mae’n cael ei gofio amdanyn nhw hyd heddiw – Y Dreflan (1881), Rhys Lewis (1885), Enoc Huws (1891), a Gwen Tomos (1894).
Yn 1888, cyhoeddodd gasgliad o ysgrifau, portreadau a barddoniaeth, sef Y Siswrn – a dyma esbonio tarddiad onomastaidd y Siop! Ac yn y flwyddyn y bu farw, 1895, cyhoeddodd Straeon y Pentan.
Wel, roeddwn wedi fy argyhoeddi erbyn hyn fod i angen i mi ddarllen bach o waith Daniel Owen i gael teimlad amdano cyn cyfarfod y bobol ifanc.
Dim Siswrn yn siop y siswrn!
Y lle amlwg i gychwyn, meddyliais, oedd hefo’r llyfr Y Siswrn, a hynny’n cynnwys bach o bopeth. A lle gwell i’w ‘mofyn na Siop y Siswrn?! Ac felly ffwrdd â fi i’r Wyddgrug.
Ond dyna lle ges i fy synnu, wrth i Selwyn ac Ann Evans, perchnogion y siop, esbonio fod llyfrau Daniel Owen allan o brint… yn y Gymraeg! Ac mi fedrith siop ddim ond stocio’r hyn sydd ar gael, wrth gwrs. Roedd ganddyn nhw rai o’i lyfrau ar ffurf cyfieithiadau Saesneg, ond doedd dim copi o’r Siswrn yn y Gymraeg.
Croesais y lôn a heibio i dafarn Y Pentan, a deall am y tro cyntaf fod y dafarn hefyd wedi ei henwi ar ôl un o lyfrau Daniel Owen.
Es i draw i’r llyfrgell, gan gerdded heibio i gerflun Daniel Owen y tu fa’s i’r adeilad. Piciais i’r tŷ bach cyn dechrau chwilio’r silffoedd, a sylwais ar y celf brodwaith ar y waliau ar yr ail lawr, oedd yn cyfeirio at y teiliwr/llenor.
Yna, es i ’nôl lawr y grisiau i geisio ‘mofyn copi o’r Siswrn a’r Pentan.
Ymofyn llyfrau Daniel o Lyfrgell Gwynedd!
Cefais groeso cynnes a help gan y llyfrgellwyr hyfryd, ond ni chefais y llyfrau roeddwn eu heisiau y diwrnod hwnnw.
Gan fod y fersiynau Cymraeg o lyfrau Daniel Owen allan o brint, roedden nhw’n brin. Ac er bod copïau ohonyn nhw gan y llyfrgell, mewn archif fyny’r grisiau, nid oedd yn bosib eu benthyg nhw.
Fe wnaeth y llyfrgell ddod o hyd i gopïau benthyg ar y system, draw mewn llyfrgell yng Ngwynedd, ac felly roedd ceisiadau i’w ‘mofyn i mi. Yn y cyfamser, ces fenthyg copi o’r Pentan… yn Saesneg, sef Fireside Tales.
A dyna deimlad od iawn oedd gadael y llyfrgell hefo fersiwn Saesneg o un o lyfrau mwyaf adnabyddus yr awdur lleol Daniel Owen, cerdded heibio ei cerflun, y dafarn a’r siop roddodd eu henwau i’r llyfrau (Cymraeg eu hiaith) dan sylw, ac eistedd wedyn yng nghaffi The Gathering, hefo fy mhaned a tôsti di-glwten, i gael blas ar ei waith.
Yr hyn sydd ar gael yn y Gymraeg
Mae dwy o nofelau Daniel Owen, Rhys Lewis ac Enoc Huws ar gael yn ddigidol o ‘Ffolio’, sef ap e-lyfrau Cyngor Llyfrau Cymru. Felly o leiaf fod y nofelau hyn ar gael i bawb yn ddigidol. Mae ambell i gopi ail-law o amgylch y lle hefyd, ac wrth gwrs mae’n bosib ymofyn rhai o’r hen lyfrau o siopau Cymraeg ac abebooks.co.uk.
Erbyn hyn, rwy’ wedi llwyddo i ymofyn y llyfrau i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg, a llyfrau am Daniel Owen a’i waith hefyd, sydd yn hyfryd o beth.
Beth yw’r broblem, felly? Wel, i mi, dylai fod yn llawer iawn haws ymofyn rhai o’r llyfrau hyn.
Dychmygwch y sefyllfa pe bawn i wedi argymell fod pob un o’r bobol ifanc yn y gweithdai creadigol yn mynd ati i ymofyn copïau o waith Daniel Owen – rhywbeth ddylai fod yn rhesymol iddyn nhw ei wneud, gan eu bod nhw’n byw yn yr Wyddgrug ac am gymryd rhan mewn cystadleuaeth ysgrifennu yng Ngŵyl Daniel Owen!
Yn y dyfodol, hoffwn weld gwaith un o’n prif lenorion yn y gogledd-ddwyrain ar gael i’w fwynhau.