Ddylen ni “beidio bod y genhedlaeth sy’n torri’r tsiaen” o ran defnydd o’r Gymraeg, yn ôl un o sêr mwyaf Pobol y Cwm.
Cyfeirio mae Marged Esli, yr actor a’r cyflwynydd poblogaidd o Fôn, at gwynion sydd wedi bod ynglŷn â defnydd cynyddol o Saesneg ar y gyfres sebon.
Mae’r actor yn gwneud y sylwadau mewn cyfweliad yn rhifyn diweddaraf cylchgrawn Golwg, wrth drafod ei hunangofiant newydd, Ro’n i’n arfer bod yn rhywun.
Cyd-ysgrifennodd y llyfr, sydd newydd gael ei gyhoeddi gan Wasg y Bwthyn, gyda’r awdur Tudur Huws Jones.
Mae hi hefyd yn trafod salwch difrifol ddioddefodd hi yn ystod cyfnod y pandemig ac wrth iddi ddechrau gweithio ar y llyfr.
Cafodd ei magu ar fferm deuluol ger pentref Gwalchmai, a bu’n adrodd llawer ar lwyfan pan oedd hi’n blentyn bach – erbyn ei bod hi’n naw oed, roedd hi wedi ennill yn y Genedlaethol. Aeth yn ei blaen i ddilyn gyrfa faith ac amrywiol ym myd theatr a theledu.
Dechreuodd bortreadu’r cymeriad Nansi Furlong ar Pobol y Cwm yn 1977, a bu arni wedyn drwy gydol yr 1980au. Dychwelodd wedyn yn 2010 a 2012, ac am ddwy flynedd rhwng 2014 a 2016.
Ar y dechrau, roedd Nansi yn gweithio yng Nghartref Brynawelon, wrth ochr cymeriadau enwog fel Harri Parri a Bella Davies (y diweddar Charles Williams a Rachel Thomas).
Yn yr erthygl, mae hi’n ymateb i’r cwynion sydd wedi’u codi yn ddiweddar, yn sgil sylwadau Gwilym Dwyfor yn ei golofn yn Golwg, bod yna ormod o ddefnydd o Saesneg ar yr opera sebon.
“Efo dim ond un sianel, dw i’n meddwl y medrwn ni fod yn reit gartrefol yn defnyddio’n iaith ein hunain,” meddai Marged Esli. “Does dim rhaid i ni boeni am yr iaith Saesneg. Mae hi’n reit saff…”
Mae eisiau “gwneud yn fawr o’r trysor” o ran y Gymraeg, meddai.
“A pheidio â bod y genhedlaeth sy’n torri ar y tsiaen euraid sy’ ganddon ni. Peidio â bod y genhedlaeth sy’n torri’r tsiaen.”
‘Castiwch yn wahanol tro yma’
Fel mae teitl ei hunangofiant yn ei awgrymu’n grafog, roedd Marged Esli yn wyneb amlwg iawn ar deledu a llwyfan ers yr 1970au, o fod yn un o aelodau Cwmni Theatr Cymru gyda’r cyfarwyddwr Wilbert Lloyd Roberts i weithio ar ddegau o raglenni plant yn y 1970au, fel Bys a Bawd.
Hi oedd cyflwynydd cyntaf y rhaglen enwog i blant, Bilidowcar, gyda Hywel Gwynfryn.
Un o’i rhannau mwyaf cofiadwy oedd fel Einir Wyn, prif gymeriad y ffilm Madam Wen, gafodd ei gomisiynu’n arbennig at agoriad y sianel yn 1982.
Yn y 1990au, actiodd ar gyfresi fel Pengelli (fel mecanic) a Tipyn o Stâd, fel y cymeriad Sheila Gordon, gwraig Robin (yr actor John Ogwen).
Mae hi’n datgelu yn yr erthygl nad yw wedi gwneud “dim ers blynyddoedd” i S4C, ac eithrio Pryd o Sêr yn 2017.
Mae ganddi asiant ac mae hi’n dal yn brysur – fe fydd hi’n gwneud llawer o waith hysbysebion, a bu’n rhan o’r gyfres HBO fawr His Dark Materials yn 2022.
“Dw i ddim yn gwybod beth ddigwyddodd rhyngof i a S4C,” meddai.
Mae hi’n dweud bod “pobol wedi sylwi” bod nifer o rannau mewn dramâu cyfoes ar S4C yn cael eu cynnig i’r un actorion.
“Mi fyddwn i’n dychmygu y byddai comisiynydd yn medru dweud ‘castiwch yn wahanol y tro yma’ wrth y cwmni maen nhw’n rhoi’r comisiwn iddo fo,” meddai. “Dychymyg ydi hwnna o f’ochr i. … Mae yna ddigonedd o dalentau. Does dim eisio mynd yn bell i’w ffeindio nhw.”
Yn ei hunangofiant, mae hi’n cydnabod iddi fod yn “anobeithiol” am hyrwyddo’i hun erioed, “yn methu cyflwyno fy hun a thynnu sgwrs efo’r bobol bwysig – bod yn pushy!”
- Mae Ro’n i’n arfer bod yn rhywun gan Marged Esli (Gwasg y Bwthyn) nawr ar werth, a’r pris yw £10.
- Darllenwch y cyfweliad llawn yn rhifyn diweddaraf cylchgrawn Golwg, sydd allan yn y siopau, neu drwy danysgrifio i Golwg+.