Mae gan yr actor, fu yn un o enwau amlycaf Pobol y Cwm ers y 1970au, farn bendant ar y defnydd o’r iaith Saesneg ar brif opera sebon S4C…

Mae Marged Esli, yr actor a’r cyflwynydd poblogaidd o Fôn, yn falch o’r ymateb sydd wedi bod i’w hunangofiant newydd, Ro’n i’n arfer bod yn rhywun.

Mae’r llyfr, a sgrifennodd gyda’r awdur cysgodol Tudur Huws Jones, yn gofnod difyr, diffuant a darllenadwy o fywyd a gyrfa hir ac amrywiol.