Mae hi’n 40 mlynedd ers marwolaeth Carwyn James, ac mae drama un-dyn am ei fywyd ar daith unwaith eto…

Wrth greu drama am arwr, mae’n rhaid rhoi rhywbeth newydd i’r bobol hynny sy’n adnabod yr hanes yn dda ynghyd ag addysgu’r rheiny sydd yn anghyfarwydd â’r stori.

Dyna ddywed Owen Thomas, awdur Carwyn, y ddrama Saesneg am yr hyfforddwr rygbi a’r athro Carwyn James, sydd ar daith drwy’r hydref i nodi 40 mlynedd ers ei farwolaeth.