Pobol sy’n cael sylw camera ffotograffydd o Geredigion sydd wedi etifeddu’r diddordeb teuluol mewn tynnu lluniau.

Erbyn hyn, a hithau wedi cau ei stiwdio lluniau yn Llandysul ers y cyfnod clo, nod Lleucu Meinir ydy dal pobol ar gamera yn eu hamgylchfyd naturiol.

Mae Lleucu’n mwynhau gweithio gyda chleientiaid, ac yn mynd i dynnu lluniau o deuluoedd reit aml, ochr yn ochr â gweithio fel gwneuthurwr ffilmiau.