Mae Trac Cymru, sefydliad celfyddydau gwerin cenedlaethol Cymru, wedi cyhoeddi apêl yn erbyn penderfyniad Cyngor Celfyddydau Cymru i ddileu eu cyllid aml-flwyddyn.
Mae Cyngor y Celfyddydau wedi cynnal arolwg o’r sefydliadau maen nhw’n eu cefnogi’n ariannol, gan ddewis 81 o sefydliadau fydd yn derbyn cyfran o’r £30m o grantiau aml-flwyddyn.
Yn ôl y Cyngor, maen nhw wedi derbyn nifer uchel o geisiadau eleni, ac fe fu’n rhaid iddyn nhw wneud “penderfyniadau anodd”, gan bwysleisio bod cyllid amgen ar gael i’r rhai oedd yn aflwyddiannus.
Llywodraeth Cymru a’r Loteri Genedlaethol sy’n gweinyddu’r arian grant.
Mae Trac Cymru’n disgrifio’u hunain fel mudiad sy’n “hyrwyddo cerddoriaeth a dawns draddodiadol Gymreig fel conglfaen i’r tirlun diwylliannol cenedlaethol ers dros ugain mlynedd”, ac yn dweud bod ganddyn nhw “hanes profedig o feithrin mynegiant artistig, cadw treftadaeth, ac ymgysylltu â chymunedau”.
‘Peryglu cynaliadwyedd’
Yn ôl Trac Cymru, mae’r penderfyniad i dorri eu cyllid a pheidio â pharhau â’u cyllid aml-flwyddyn “yn peryglu cynaliadwyedd” eu rhaglenni a’r “effaith gadarnhaol mae ein mentrau yn cael ar gymunedau a cherddorion Cymru”.
Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n apelio yn erbyn y penderfyniad “i sicrhau parhad” eu gweithrediadau “sydd wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu celfyddydau traddodiadol Cymreig yng Nghymru a ledled y byd, yn meithrin creadigrwydd, cynwysoldeb ac ymdeimlad o berthyn”.
Maen nhw wedi diolch i’w rhanddeiliaid a’u partneriaid am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd, ac i Gyngor y Celfyddydau hefyd “am eu buddsoddiad hir” yn eu gwaith.
Maen nhw hefyd yn “croesawu” ymrwymiad Cyngor y Celfyddydau i gynnal adolygiad strategol i benderfynu sut i gefnogi’r celfyddydau traddodiadol yn well yn y tymor hir, a’r ffaith eu bod nhw wedi cydnabod “cyfraniadau amhrisiadwy mae Trac Cymru wedi’u gwneud… i wead diwylliannol Cymru”.
“Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i’n cenhadaeth a byddwn yn mynd ati i ddilyn yr holl lwybrau sydd ar gael i sicrhau’r cyllid angenrheidiol i barhau â’n gwaith a’n prosiectau sydd i ddod,” meddai Trac Cymru.
“Rydym yn hyderus, gyda chefnogaeth barhaus y gymuned gwerin Gymreig a’n rhanddeiliaid, y gallwn oresgyn yr her hon a pharhau â’n hymdrechion i gyfoethogi bywyd diwylliannol Cymru.”