Mae eisiau “dysgu gwersi” o’r hyn sydd wedi digwydd i’r cwmni theatr Saesneg, yn ôl pennaeth Cyngor y Celfyddydau. Ond beth yw goblygiadau hyn i’r Theatr Genedlaethol Gymraeg ei hiaith?

“Sgandal rhyngwladol.” Dyna ddyfarniad llym un newyddiadurwr wrth ymateb i ddirywiad y National Theatre Wales, y corff cenedlaethol sydd heb ennill nawdd gan y Cyngor Celfyddydau ar gyfer 2024/25 ymlaen.