Mae trefnwyr Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yn gobeithio casglu £400,000 dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn cynnal yr ŵyl yn 2025.

Daw hyn yn dilyn cyfarfod cyhoeddus yng Ngholeg Cambria niethiwr (nos Fercher, Hydref 18), lle’r oedd dros 100 o bobol yn bresennol.

Dywed Marc Jones, sy’n gadeirydd Plaid Cymru yn Wrecsam, fod casglu’r arian am fod yn “dipyn o her” yn sgil yr argyfwng costau byw.

Er hynny, mae’n croesawu nifer y wynebau newydd aeth i’r cyfarfod.

“Roedd o’n galonogol iawn gweld cymaint o bobol yna, a chymaint o bobol ifanc, frwdfrydig, pobol oedd ddim yn rhan o’r ymgyrch ddiwethaf yn 2011,” meddai wrth golwg360.

“Dw i’n meddwl bod yna deimlad ein bod ni eisiau dangos Wrecsam ar ei gorau i weddill Cymru.

“Mae yna heriau, ac mae yna syniad efallai bod pethau’n mynd i fod yn wahanol.

“Ond mae angen ein bod ni’n adeiladu ar y momentwm sydd gennym ni, ble mae pawb eisiau dod yma ar hyn o bryd oherwydd, yn amlwg, y bêl droed a’r statws dinesig, a’r ffaith ein bod ni’n mynd am Ddinas Diwylliant.

“Mae’r Eisteddfod yn rhan o’r bwrlwm yna rili.”

“Rhoi” sioe ymlaen i’r bobol leol

Tra bod Marc Jones eisiau gweld croeso i bawb yn y Brifwyl, dywed ei bod yr un mor bwysig ei wneud yn ddathliad ar gyfer y gymuned leol hefyd.

“Beth sy’n bwysig ydi ein bod ni’n rhoi croeso i bawb sy’n dod o weddill Cymru a gweddill y byd,” meddai.

“Ond hefyd, ein bod ni’n dangos i bobol Wrecsam, y mwyafrif efallai erioed wedi bod mewn Eisteddfod, pa mor fawr ac amrywiol y gall Eisteddfod fod.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n rhoi sioe ymlaen i’r bobol leol hefyd.”

Er nad yw’n credu y bydd hynny’n dasg hawdd, mae’n gobeithio y bydd ysbryd yr ŵyl yn parhau yn y ddinas wedi i’r Eisteddfod ddod i ben.

“Mae’n rhan hollol hanfodol o Eisteddfod symudol, bod yna elfen o genhadu a rhannu diwylliant a, gobeithio, gadael gwaddol,” meddai.

“Saith Seren oedd y gwaddol o’r tro diwethaf, ddaru o gael ei agor yn y flwyddyn ar ôl yr Eisteddfod fel rhyw fath o waddol parhaol.

“Felly mae yna bethau positif iawn o gael Eisteddfod symudol, dw i’n teimlo.”

Cyfle i bawb gymryd rhan

Dywed Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, ei bod hi’n gobeithio y bydd codi’r arian yn rhoi cyfle i bawb yn Wrecsam fod yn rhan o’r ŵyl.

“Roedd yna bobl oedd wedi bod ar y daith o’r blaen, ond hefyd pobol nad oedd yn gwybod beth oedd Eisteddfod, a dyna beth sy’n wych, fod pobol yn dod at ei gilydd a meddwl be’ grëwn ni erbyn 2025,” meddai.

“Yn hytrach na chodi arian, codi hwyl yw e, gweithgareddau ar y cyd i sicrhau fod pawb yn cael twtsh o’r Eisteddfod cyn iddo ddod.

“Mi fydd pawb yn Wrecsam yn rhan ohono fe obeithio.”