Mae’r llyfr cyntaf erioed yn y Gymraeg yn trafod y menopos wedi’i chyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Hydref 18) ar Ddiwrnod Menopos y Byd.

Criw cylchgrawn Cara – cylchgrawn i fenywod gan fenywod – sydd wedi cyhoeddi Menopositif: Cara dy Hun Drwy’r Newid Mawr.

Meinir Wyn Edwards a’i merch Efa o Geredigion sydd y tu ôl i’r fenter sy’n adrodd straeon personol ac yn rhoi cymorth gan arbenigwyr.

Yn ôl Meinir Wyn Edwards, mae’r gyfrol yn torri tir newydd, gan mai hon yw’r gyfrol gyntaf yn y Gymraeg i drafod pwnc “pwysig” y menopos.

“Mae erthyglau iechyd wastad wedi bod yn ganolog ym mhob rhifyn o gylchgrawn Cara, ac o ddechrau ymchwilio i’r menopos, yn fuan iawn fe wnaethon ni sylweddoli bod angen tipyn mwy nag un erthygl i drafod y pwnc pwysig yma,” meddai.

“Felly, dyma benderfynu llenwi bwlch yn y farchnad a chyhoeddi cyfrol lawn gwybodaeth, hawdd i’w darllen, sef Menopositif: Cara dy hun drwy’r Newid Mawr.

“Fe wnaeth Cara wedyn fynd ati i lunio ‘Arolwg Mawr y Menopos’ a’i rannu ar-lein, a chael ymateb gwych.

“Mae canlyniadau’r Arolwg i’w gweld yn y gyfrol.

“Roedden ni’n teimlo bod angen i rywbeth ddigwydd, ac aethon ni ati wedyn i chwilio am gyfranwyr.

“Mae ugain o gyfranwyr gwahanol, pob un yn siarad o brofiad personol, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu cefnogaeth.”

Pwysig cael Diwrnod Menopos

Yn ôl Meinir Wyn Edwards, mae cael diwrnod i ganolbwyntio ar y menopos yn hollbwysig, gan ei fod yn effeithio ar bron bob merch ar ryw adeg yn eu bywydau, ac mae hefyd yn effeithio ar y bobol o’u cwmpas.

Yn ogystal, teimla Meinir Wyn Edwards fod angen “chwalu’r stigma”.

“Rhaid cofio bod hanner poblogaeth y byd yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y menopos, ac mae partneriaid, plant, ffrindiau a chydweithwyr hefyd yn cael eu heffeithio yn sgil hynny,” meddai.

“Mae cael diwrnod i drafod y menopos, a chael rhannu profiadau, a dangos bod cymorth ar gael i’r rhai sy’n dioddef o symptomau’r menopos yn bwysig iawn.

“Gobeithio bod y gyfrol Menopositif yn chwarae rhan fach mewn chwalu’r stigma sydd wedi bod am y menopos yn y gorffennol, ac yn fodd o ddechrau’r drafodaeth ymysg ffrindiau, teulu a chyd-weithwyr.

“Mae’n gyfrol sy’n berthnasol i bawb, nid dim ond menywod.”

Ymdopi â’r menopos

Fel yr eglura Meinir Wyn Edwards, mae’r menopos yn cael effaith corfforol ac emosiynol.

Mae meddyginiaethau ar gael, ac mae pethau y gall pobol eu gwneud eu hunain i leddfu’r boen hefyd.

Ond mae hi’n credu bod lle i wella’r ddarpariaeth ar gyfer y menopos yn y gweithle.

“Mae’r menopos nid yn unig yn effeithio ar gorff menywod, ond mae’n cael effaith yn feddyliol ac yn emosiynol hefyd,” meddai.

“HRT yw’r driniaeth fwyaf cyffredin a mwyaf effeithiol, ond mae penodau yn y gyfrol sy’n sôn am y maeth cywir i’r corff, a sut i fyfyrio, sy’n gallu helpu i leddfu’r symptomau.

“Mae canllawiau ar gyfer y menopos yn y gweithle hefyd yn y gyfrol, ac mae ystadegau’n dangos mewn sawl arolwg bod lle i wella, bod angen polisi menopos ym mhob gweithle, a bod rhywun ar gael i siarad, a chreu gwelliannau syml ar gyfer menywod fel rhoi system awyru mewn stafell i wella symptomau fel pyliau poeth (hot flushes).”

Cefnogaeth

Yn y gyfrol, mae dau wleidydd yn sôn am ddatblygiadau gan lywodraethau Cymru a San Steffan yn y maes.

“Mae cefnogaeth ar gael i rai sy’n dioddef symptomau’r menopos, ac rydyn ni’n cynnig cymorth drwy’r gyfrol,” meddai Meinir Wyn Edwards.

“Mae arbenigwyr meddygol yn rhannu gwybodaeth – meddyg teulu, meddyg sydd â dau glinig menopos, a myfyrwraig Feddygaeth; mae dau wleidydd hefyd yn sôn am ddatblygiadau gan Lywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru.

“Mae’n llawn cynghorion defnyddiol a dyfyniadau gan enwogion.

“Mae cefnogaeth hefyd o ran eich perthynas rywiol gyda’ch partner, a’r gefnogaeth orau bosib, wrth gwrs, yw gan deulu a ffrindiau sy’n gallu deall y symptomau ac yn gallu cydymdeimlo.

“Y penodau pwysicaf, efallai, yw’r rhai gan fenywod sydd â stori i’w rhannu am eu profiadau nhw o’r menopos.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i bob un am fod mor onest am eu symptomau.

“Ar ôl dweud hynny, mae eu straeon yn llawn hiwmor, ac maen nhw’n rhannu sefyllfaoedd doniol iawn.

“Mae hyn mor bwysig i’r darllenwyr sy’n teimlo bod rhyw salwch yn bod arnyn nhw, eu bod nhw’n methu deall beth yw’r newid mawr yn eu hemosiynau, pam eu bod nhw’n magu pwysau ac yn y blaen.

“Mae darllen y cyfraniadau yma’n sicr o roi gwên ar eich wyneb chi!

“Byddwch yn bositif am eich menopos. Byddwch yn menopositif!”

Profiad personol

Er bod Meinir Wyn Edwards yn ymwybodol iawn o’i effeithiau, dywed nad oedd y symptomau’n eithafol pan aeth hi drwy’r menopos.

“Bues i’n eithaf lwcus, yn bersonol – dwi’n ôl-fenoposaidd erbyn hyn,” meddai.

“Dw i ddim wedi gorfod cymryd tabledi HRT na chael triniaeth o unrhyw fath, ond mae gymaint o ferched yn dioddef – rhai’n dawel bach – a heb y wybodaeth gywir a’r help angenrheidiol maen nhw’n gallu teimlo’n unig iawn, ac yn isel eu hysbryd.”

Bydd Menopositif: Cara dy Hun Drwy’r Newid Mawr yn cynnal digwyddiad i ddathlu cyhoeddi’r gyfrol nos Wener, Hydref 27, yn Tramshed Tech yng Nghaerdydd (i ddechrau am 7.30yh).

Bydd panel o cyfranwyr i’r gyfrol yn cynnal trafodaeth, bydd y grŵp Sorela yn canu (un o’r grŵp, Mari Gwenllian, sydd wedi creu’r gwaith celf i’r gyfrol), a bydd cyfle i siarad a rhannu profiadau fel cynulleidfa.

Mae modd sicrhau lle ar gyfer y digwyddiad drwy gysylltu â Cara.

Y Senedd yn lansio canllawiau newydd i staff ar y menopos

“Rydym am i’r Senedd fod yn rywle lle mae unrhyw un sy’n profi’r menopos yn teimlo’n gyfforddus”