Mae toriadau “mor sylweddol” i gyllid Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru’n “peri pryder mawr” i undeb addysg.

Wrth egluro ddoe (dydd Mawrth, Hydref 17) sut y byddan nhw’n mynd i’r afael â bwlch o £900m yn eu cyllideb, fe wnaeth y Gweinidog Cyllid gyhoeddi y bydd toriad o £40m yng nghyllideb gwariant cyfalaf ysgolion.

Eglurodd Rebecca Evans mai chwyddiant, effeithiau llymder a “chanlyniadau parhaus” Brexit sy’n gyfrifol am y diffyg ariannol.

‘Peri pryder’

Er bod y toriadau cyllid i addysg yn “peri pryder”, dydyn nhw ddim yn annisgwyl o ystyried y bwlch mewn gwariant, yn ôl Laura Doel, Ysgrifennydd Cenedlaethol undeb NAHT Cymru.

“Mae pwysau chwyddiant yn mynd ymhell tu hwnt i’r llywodraeth, ac mae ysgolion yn cael trafferth cael deupen llinyn ynghyd yn barod,” meddai.

“Felly rydyn ni’n annog y llywodraeth i edrych ar bob agwedd ar wariant addysg er mwyn amddiffyn gwasanaethau rheng flaen.

“Mae’r adolygiad presennol o’r consortia gwelliannau ysgol drud yn hollbwysig er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cynnig yr un gwerth â buddsoddi mewn athrawon ac arweinwyr.

“Ond bydden ni’n hoffi gweld prosiectau sy’n cael ychydig iawn o effaith ar addysg plant a phobol ifanc, fel adolygu’r diwrnod a’r flwyddyn yn ysgol ac ysgolion sy’n canolbwyntio ar y gymuned, yn cael eu hoedi.

“Mae’r lefelau cyllid presennol yn golygu bod rhaid i ysgolion wneud diswyddiadau’n barod i gydbwyso’u cyllidebau.

“Byddai unrhyw doriadau pellach yn peryglu gallu ysgolion i weithredu.”

Newidiadau eraill

Fel rhan o’r newidiadau gan Lywodraeth Cymru, mae’r gyllideb ar gyfer prydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd yn gostwng gan £11.5m.

Dywed Laura Doel ei bod hi’n gobeithio bod hyn yn ddigon i barhau â’r cynnig o bryd ysgol am ddim i bob plentyn.

Bu’n rhaid i bob adran yn y Llywodraeth wneud arbedion, oni bai am yr adrannau Iechyd a Newid Hinsawdd, a bydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cael £425m ychwanegol.

Bydd cyllid Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cynyddu gan £125m, er mwyn “diogelu gwasanaethau i deithwyr a pharhau â’r rhaglen drawsnewid sydd ar y gweill”.

Mae NFU Cymru yn dweud eu bod nhw’n “poeni’n wirioneddol” am y cyhoeddiad fod y gyllideb Materion Gwledig wedi cael ei thorri gan £37.5m hefyd.

Toriadau’r llywodraeth: Gwario mwy ar iechyd a threnau

Ond bydd rhaid torri’n ôl ym mhob rhan o’r gyllideb, meddai’r Gweinidog Cyllid