Mae NFU Cymru’n “poeni’n wirioneddol” am gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch torri’r gyllideb Materion Gwledig gan £37.5m.

Daeth y toriad fel rhan o ddatganiad Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, wrth i Lywodraeth Cymru ddweud eu bod nhw’n ceisio mynd i’r afael â diffyg yn y gyllideb ehangach.

O ganlyniad, mae £17.3m wedi cael ei dorri oddi ar y gyllideb Materion Gwledig, tra bod y gyllideb gyfalaf ym maes Materion Gwledig am gael ei dorri gan £20.2m.

Yn ôl NFU Cymru, bydd y toriadau hyn yn creu heriau ariannol ychwanegol i fusnesau ffermio sy’n darparu gwasanaeth i gymunedau ledled Cymru.

‘Buddsoddiad da’

Yn ôl Abi Reader, Dirprwy Lywydd NFU Cymru, mae’r toriad yn “bryder gwirioneddol i’r diwydiant”.

“Mae’n bwysig nodi bod y toriadau hyn yn dod yn erbyn cefndir o gwymp yng nghyllid ffermwyr o 30% dros y degawd diwethaf o ganlyniad i chwyddiant,” meddai.

“Ar hyn o bryd, mae’r gyllideb Materion Gwledig gyfan, gan gynnwys amaeth, yn cyfateb i ddim ond 2% o wariant Llywodraeth Cymru.

“Ar gyfer hyn, mae ffermwyr yn rheoli 80% o dir Cymru, yn cynnal sector bwyd a ffermio gwerth £8.5bn, ac yn gwneud cyfraniad heb ei ail i les economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru wledig – rydym yn credu bod hyn yn cynrychioli gwerth buddsoddiad da.

‘Heriau digynsail’

Dywed Abi Reader fod ffermio yng Nghymru’n wynebu “heriau digynsail, gyda chostau mewnbynnu bellach yn 40% yn uwch nag yr oedden nhw yn 2020”.

“Ar yr un pryd, mae angen i ffermwyr barhau i gynhyrchu bwyd diogel a fforddiadwy o safon uchel i bawb yn y gymdeithas, gan helpu i ateb heriau diogelwch cartref a byd-eang, tra eu bod nhw ar yr un pryd yn gofalu am ein hamgylchedd ffermio ac yn gweithio tuag at ein huchelgais o amaeth sero-net.

“Ar adeg pan fo’n ffermwyr yn wynebu nifer o alwadau blaenoriaeth uchel, mae ein llywodraeth wedi torri ein cyllideb gan 7.8% heddiw.

“Mae’r ddogfen welson ni heddiw ond yn darparu trosolwg o brif ddeilliannau’r adolygiad, gyda rhagor o fanylion ynghylch lle yn union y bydd y fwyell yn cwympo o fewn y gyllideb Materion Gwledig i gael eu cadarnhau ym mis Chwefror.

“Mae’n ymddangos, fodd bynnag, y bydd y Rhaglen Fuddsoddi Wledig yn wynebu’r toriadau mwyaf.

“Mae’r rhaglen hon yn cefnogi buddsoddiad yn yr amgylchedd a newid hinsawdd drwy wella cynhyrchiant ar ffermydd, megis cefnogi ffermwyr i ymgymryd â gwelliannau i ansawdd y dŵr ar ffermydd.

“Mae ffigurau asesiad effaith Llywodraeth Cymru hithau’n awgrymu bod buddsoddiad ymlaen llaw mewn isadeiledd i fodloni rheoliadau ansawdd dŵr Llywodraeth Cymru hithau wedi’i amcangyfrif i fod yn £360m – ac roedd hynny cyn y pwysau chwyddiant rydyn ni wedi’i weld dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Mae’n bryder gwirioneddol gweld ei bod hi’n ymddangos fel bod cyllid o’r gyllideb hon fel pe bai’n cael ei dorri.

“Yn barhaus, mae NFU Cymru wedi codi pryderon am gyflwyno cyllid Datblygu Gwledig, yn wreiddiol o dan raglenni’r Undeb Ewropeaidd, ac yn fwy diweddar o dan Gynlluniau Cefnogi Buddsoddiad Gwledig.

“Rydym yn ategu ein galwadau am adolygiad annibynnol i gyllid Datblygu Gwledig sy’n cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru.”

Toriadau’r llywodraeth: Gwario mwy ar iechyd a threnau

Ond bydd rhaid torri’n ôl ym mhob rhan o’r gyllideb, meddai’r Gweinidog Cyllid