Mae deiseb sy’n gwrthwynebu dau leoliad newydd sydd wedi’u cynnig fel safleoedd posib i Sipsiwn a Theithwyr yn Sir Fynwy wedi cael cefnogaeth aelod seneddol y sir.

Mae David TC Davies, sydd hefyd yn Ysgrifennydd Cymru yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn gwrthwynebu’r safleoedd ger Cil-y-coed ac ym Mhorthysgewin sydd wedi’u cynnig gan y Cyngor Sir.

Mae e wedi cefnogi deiseb gan Lisa Dymock, Cynghorydd Sir Ceidwadol Porthysgewin, sy’n galw ar y Cyngor i gefnu ar y syniad o ystyried y safleoedd.

Yn ôl y Cynghorydd Lisa Dymock, mae’r caeau ar Fferm Bradbury a Fferm Oak Grove yn anaddas am resymau’n ymwneud â diogelwch y ffyrdd.

“Mae’r ddau leoliad ym Mhorthysgewin ar heolydd 50m.y.a. â throeon sydd yn ddallbwyntiau,” meddai.

“Mae’n beryglus tynnu allan ar y B4245, heb sôn am gerdded arni.

“Dw i ddim yn credu eu bod nhw’n addas ar gyfer y gymuned Sipsiwn a Theithwyr, nac ar gyfer datblygiad o unrhyw fath.

“Does dim llwybrau diogel i gael mynediad at gyfleusterau lleol, a fydd plant ddim yn gallu cerdded yn ddiogel i’r ysgol.”

Y ddeiseb a’r safleoedd

Mae mwy na 460 o bobol eisoes wedi llofnodi’r ddeiseb, sydd ar agor tan Ragfyr 16, ac mae’n galw am roi’r gorau i ystyried y safleoedd, gan nodi bod “y ddau safle sydd wedi’u cynnig yn anaddas ar gyfer datblygiad o unrhyw fath, gan gynnwys fel safleoedd ar gyfer y gymuned Sipsiwn a Theithwyr”.

Mae’r holl ddeisebau sydd â 25 o lofnodion neu ragor yn cael eu trosglwyddo i bwyllgor craffu’r Cyngor i’w hystyried.

Mae’r Cynghorydd Lisa Dymock hefyd wedi cwestiynu sut gafodd y ddau gae eu clustnodi, ar ôl i bwyllgor craffu wrthod y safleoedd gafodd eu cynnig ar Gomin Mitchell Troy, Trefynwy, Magwyr ac Undy, gan ddweud y dylid ailddechrau’r broses o ddod o hyd i safleoedd.

O ganlyniad, dywed Paul Griffiths, dirprwy arweinydd y Cyngor, ei fod e wedi gorchymyn swyddogion i ailystyried yr holl dir sydd dan berchnogaeth y Cyngor, gan gynnwys darnau o dir sydd heb eu cyflwyno ganddyn nhw o’r blaen, gan eu bod nhw wedi cael eu rhestru fel rhai sydd o bosib yn addas ar gyfer datblygiad preswyl.

Roedd hynny’n golygu bod safleoedd Fferm Bradbury a Fferm Oak Grove, gafodd eu rhestru fel rhai sydd yng Nghrug, wedi cael eu nodi ym mis Medi.

Cytunodd y Cabinet Llafur ddechrau mis Hydref y dylid cynnal ymgynghoriad ar eu cynnwys nhw, ynghyd â chae y tu ôl i Glôs Langley ym Magwyr, yn y cynllun datblygu lleol newydd maen nhw wrthi’n ei lunio ar hyn o bryd.

Mae’r Cynghorydd Paul Griffiths wedi pwysleisio nad yw cynnwys y caeau yn y glasbrint cynllunio yr un fath â’u cymeradwyo nhw i’w defnyddio oherwydd, fel sy’n wir am bob safle yn y cynllun, byddai angen caniatâd cynllunio i’w defnyddio nhw, ac mae’n dweud y byddai’r ymgynghoriad yn mynd i’r afael â materion megis a yw’r safleoedd yn addas ar gyfer datblygiad.

Mae Fferm Bradbury wedi’i lleoli ar ochr ogleddol y fferm yn ward Porthysgewin, tra bod Fferm Oak Grove ar dir ger Fferm Severn yn Leechpool, Porthysgewin, 2.4 milltir o fferm sydd â’r un enw yng Nghaerwent.

Mae’r ardal wedi’i chlustnodi yn y cynllun datblygu fel safle strategol Dwyrain Cil-y-coed, lle gellid adeiladu ryw 730 o gartrefi yn ystod oes y cynllun, fydd yn rhedeg hyd at 2033.

Dywed y Cyngor fod yna angen wedi’i asesu ar gyfer deg neu unarddeg o lefydd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, dros y tri safle, a bod un lle oddeutu 320 metr sgwâr.

“Mae angen llai nag erw o dir ar y sir gyfan,” meddai’r Cynghorydd Lisa Dymock.

“Mae gan y sir 200,000 erw, ond eto mae’r weinyddiaeth Lafur yn cynnig bod yr unig safleoedd addas i gyd yn ardal Severnside.”

Yn ôl David TC Davies, “yr adborth gan y gymuned Sipsiwn a Theithwyr oedd nad oedden nhw eisiau bod ar safle mor agos at ardaloedd prysur”.

“Mae’r safleoedd gafodd eu cynnig ym Mhorthysgewin yn anaddas o ganlyniad i nifer y tai sydd eisoes wedi’u hadeiladu, a gellid dyrannu’r 750 i 1,400 o dai ym Mhorthysgewin yn y dyfodol, gan beryglu ei hunaniaeth fel pentref.

“Mae’r cyfan yn ormod mewn ardal sy’n cael ei gorddatblygu.”

Yng nghyfarfod y Cabinet fis Hydref, dywedodd y Cynghorydd Paul Griffiths y byddai sgwrs â’r teuluoedd o Sipsiwn a Theithwyr fel rhan o’r ymgynghoriad, ond nad yw yntau wedi cynnal sgyrsiau uniongyrchol â nhw, gan eu bod nhw’n teimlo’n “agored” o ganlyniad i chwilio am safleoedd posib eraill.