Fydd y sianel newyddion GB News ddim yn cael ei dangos ar system deledu fewnol y Senedd, oherwydd pryderon ei bod yn “fwriadol sarhaus”.

Daw hyn wedi i Ofcom dderbyn 8,846 o gwynion yn ddiweddar, yn dilyn sylwadau anaddas y darlledwr ac actor Laurence Fox am Ava Evans, gohebydd gwleidyddol JOE Media.

Mae’r corff rheoleiddio hefyd wrthi’n cynnal mwy na deg o ymchwiliadau i’r sianel.

Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi dweud ar X [Twitter gynt] mai “sensoriaeth” yw’r penderfyniad.

“Mae hwn yn benderfyniad gwarthus. Mae’n sensoriaeth. Pur a syml,” meddai.

Mae David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru, hefyd yn galw’r penderfyniad yn “warthus”.

“36 yn fwy o Aelodau’r Senedd ac un sianel newyddion yn llai…,” meddai.

“Mae lluosogrwydd y cyfryngau yn hanfodol i sicrhau democratiaeth weithredol.

“Mae’n warthus bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi gosod gwaharddiad cyffredinol ar wylio GB News ar deledu’r Senedd.”

‘Croes i werthoedd ein Senedd’

Fodd bynnag, mae Elin Jones, Llywyd y Senedd, wedi cwestiynu pam y byddai neb wirioneddol yn cefnogi’r sianel.

“A ydych o ddifrif yn cefnogi sianel sy’n caniatáu i fenyw gael ei thrafod heb ei herio fel nodir isod i barhau i gael ei darlledu ar ein system fewnol yn y Senedd?” meddai.

Dywed llefarydd ar ran Elin Jones fod cynnwys y sianel “yn groes i werthoedd ein Senedd”.

“Mae GB News wedi’i thynnu oddi ar system deledu fewnol y Senedd yn dilyn darllediad diweddar a oedd yn fwriadol sarhaus, yn ddiraddiol i ddadl gyhoeddus ac yn groes i werthoedd ein Senedd,” meddai.

“Erbyn hyn, mae sawl ymchwiliad gan Ofcom ar y gweill i’r sianel.

“Bydd y Comisiwn yn trafod y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol, a bydd staff ac Aelodau sy’n dymuno gweld GB News yn dal i allu gwneud hynny ar-lein yn y Senedd.”

‘Allfa propaganda eithafol’

Nid Elin Jones yw’r person cyntaf i feirniadu’r sianel, ar ôl i Liz Saville Roberts hefyd feirniadu’r gwleidyddion sydd yn penderfynu ymddangos ar y sianel.

“Mae GB News yn cael ei ddefnyddio fel llwyfan gan wleidyddion Cymreig gan gynnwys @AndrewRTDavies i greu rhaniad,” meddai.

“Mae Plaid Cymru wedi gwrthod gwahoddiadau i ymddangos ar yr allfa bropaganda eithafol hon.

“Dylai pob gwleidydd sy’n parchu menywod dorri’r cysylltiad â’r esgus cas hwn dros sianel.”

Mewn datganiad ar eu gwefan, dywedodd GB News eu bod nhw wedi ymddiheuro wrth Ava Evans, a bod Laurence Fox bellach wedi gadael y sianel “ar ôl ymchwiliad mewnol”.

Mae’r sianel hefyd wedi tynnu Dan Wootton, cyflwynydd y rhaglen y gwnaeth Laurence Fox y sylwadau arni, oddi ar yr awyr hefyd.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Andrew RT Davies.