Comisiwn y Senedd fydd y sefydliad cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu canllawiau’r Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI) ar y menopos a’r mislif.

Yn ôl Joyce Watson, sy’n Aelod Llafur o’r Senedd, mae’n gam ymlaen i wneud y gweithle’n fwy cynhwysol.

Heddiw (Hydref 18), ar Ddiwrnod Menopos y Byd, cyhoeddodd y Senedd eu bod nhw bellach yn un o sefydliadau mwyaf blaenllaw’r Deyrnas Unedig o ran cefnogi staff sy’n mynd drwy’r menopos.

Daeth arolwg BUPA i’r casgliad bod bron i 900,000 o fenywod yn y Deyrnas Unedig wedi gadael eu swyddi oherwydd symptomau’r menopos, gan gynnwys pyliau poeth, teimlo’n benysgafn, methu cysgu a stiffrwydd yn y cyhyrau a’r cymalau.

Bydd un mesur syml fydd yn cael ei gyflwyno yn Senedd Cymru yn galluogi staff i ddewis desgiau yn seiliedig ar a ydyn nhw eisiau bod wrth ymyl rheiddiadur, ffenestr agored neu o dan system aerdymheru.

Mae hyn yn caniatáu i bawb eistedd yn yr ardaloedd sydd fwyaf cyfforddus iddyn nhw.

Mae canllawiau newydd Senedd Cymru yn cynnig offer ymarferol i reolwyr a’r rhai sy’n chwilio am ragor o wybodaeth am y mislif neu’r peri/menopos.

Canllawiau

Yn ôl Joyce Watson, sydd â chyfrifoldeb yn y Senedd dros gydraddoldeb, bydd dilyn y mesurau hyn yn gwneud y Senedd yn weithle mor gynhwysol â phosib, a’r gobaith yw y bydd sefydliadau eraill yn dilyn eu hesiampl.

“Rydym yn falch o gyhoeddi heddiw, ar Ddiwrnod Menopos y Byd, y bydd y Senedd yn mabwysiadu canllawiau’r Sefydliad Safonau Prydeinig ar gyfer pobol sy’n profi’r menopos,” meddai.

“Drwy fabwysiadu’r mesurau hyn, rydym yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi pobol sy’n profi’r peri-menopos neu’r menopos, wrth i ni geisio gwneud ein gweithle mor gynhwysol â phosibl.

“Rydym am i’r Senedd fod yn rywle lle mae unrhyw un sy’n profi’r menopos yn teimlo’n gyfforddus.

“Rwy’n gobeithio bod y cyhoeddiad heddiw nid yn unig yn arwydd o’n hymrwymiad i fod mor gefnogol â phosibl i staff, ond hefyd yn ysbrydoli sefydliadau eraill yng Nghymru i ddilyn.”

Ystadegau “brawychus”

Yn ôl Anne Hayes, Cyfarwyddwr Sectorau BSI, mae ystadegau brawychus yn dangos bod y menopos yn ei gwneud yn fwy anodd i ferched weithio.

Dywed fod y mesurau mae’r Senedd wedi’u derbyn yn gam ymlaen yn y sefyllfa.

“Mae ein hymchwil yn dangos bod menywod yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig yn wynebu Ail Nenfwd Gwydr,” meddai.

“Mewn llawer o achosion, maen nhw’n gadael y gweithlu’n gynnar, ac nid o reidrwydd o ddewis personol.

“Mae un rhan o bump (21%) o fenywod yn y Deyrnas Unedig yn dweud bod ystyriaethau iechyd neu lesiant sy’n gysylltiedig â’r menopos yn rhwystr rhag parhau i weithio, ac mae bron i dri chwarter (72%) yn dweud y dylid rhoi mwy o gefnogaeth i fenywod sy’n profi symptomau.

“Mae mwy na hanner (54%) menywod y Deyrnas Unedig yn credu y byddai’n anodd codi materion yn ymwneud â’r menopos gyda chyflogwr, a byddai dros hanner yn anghyfforddus i wneud hynny (52%).

“Gallwn gymryd camau i newid hyn.

“Mae manteision enfawr i unigolion, sefydliadau a chymdeithas gyfan ble mae’n bosib eu gwireddu os yw menywod yn cael eu cefnogi i aros yn y gweithlu am gyfnod hirach.

“Rydym yn falch bod y Senedd wedi mabwysiadu ein safon menopos yn y gweithle (BS 30416), sef y corff cyhoeddus cyntaf i wneud hynny yng Nghymru.

“Mae hwn yn gam ymlaen a all helpu cymdeithas i godi’r Ail Nenfwd Gwydr sy’n wynebu menywod yng Nghymru a thu hwnt.”