Mae’n ymddangos nad oedd Maen Allor Côr y Cewri wedi dod o Gymru, yn ôl ymchwil newydd o Brifysgol Aberystwyth.

Ers can mlynedd, y gred oedd fod Maen yr Allor, sy’n pwyso chwe thunnell, wedi dod o Hen Dywodfaen Coch yn ne Cymru.

Tybiwyd bod hwn yn agos at fynyddoedd y Preseli, ardal y mwyafrif o ‘gerrig gleision’ byd-enwog Côr y Cewri.

Cafodd cerrig gleision Sir Benfro eu ffurfio o graig dawdd wedi’i chrisialu, ac mae’n debyg eu bod nhw ymhlith y cyntaf i’w codi ar y safle yn Wiltshire tua 5,000 o flynyddoedd yn ôl.

Yn draddodiadol, mae Maen yr Allor, sy’n dywodfaen, wedi’i chategoreiddio gyda’r cerrig gleision igneaidd eraill llai, er nad yw’n glir pryd y cyrhaeddodd Côr y Cewri.

Ond bellach mae ansicrwydd am darddiad y “garreg las” fwyaf sydd yng nghanol Côr y Cewri yn sgil yr ymchwil newydd.

Côr y Cewri yn Wiltshire

‘Anarferol’

Mewn ymgais i ddod o hyd i’w ffynhonnell, mae gwyddonwyr yn Aberystwyth wedi cymharu dadansoddiadau o Faen yr Allor â 58 sampl gafodd eu cymryd o’r Hen Dywodfaen Coch ar draws Cymru a’r gororau.

Dydy cyfansoddiad Maen yr Allor ddim yn cyfateb i unrhyw un o’r lleoliadau hyn. Mae gan Faen yr Allor lefelau bariwm uchel, sy’n anarferol a gall fod o gymorth wrth geisio darganfod o ble mae’n dod.

“Rydyn ni wedi dod i’r casgliad nad yw Maen yr Allor yn dod o Gymru. Efallai dylen ni nawr hefyd dynnu Maen yr Allor o’r categori eang ‘cerrig gleision’ a’i ystyried yn annibynnol,” meddai’r Athro Nick Pearce o Brifysgol Aberystwyth.

“Am y can mlynedd diwethaf credwyd fod Maen Allor Côr y Cewri yn deillio o ddilyniannau Hen Dywodfaen Coch de Cymru, yn y Basn Eingl-Gymreig, er na chafodd unrhyw leoliad penodol ei nodi.

“Mae’n ymddangos nad yw Maen yr Allor, mewn gwirionedd, yn dod o Hen Dywodfaen Coch y Basn Eingl-Gymreig – dyw hi ddim yn dod o dde Cymru. Bydd y sylw nawr yn troi at yr ardaloedd eraill, fel gogledd Lloegr a’r Alban, ardaloedd lle mae’r ddaeareg yn gywir, y gemeg yn iawn, a gweithgaredd Neolithig yn bresennol, i ganfod a oes gan unrhyw un o’r tywodfeini hyn nodweddion sy’n cyd-fynd â Maen Allor Côr y Cewri.”

‘Syniadau newydd’

“Gobeithio y bydd y canfyddiadau hyn yn helpu pobol i ddechrau edrych ar Faen yr Allor mewn cyd-destun ychydig yn wahanol o ran sut a phryd y cyrhaeddodd Côr y Cewri, ac o ble y daeth,” meddai’r Athro Nick Pearce wedyn.

“Gobeithio y bydd hyn yn arwain at rai syniadau newydd am ddatblygiad Côr y Cewri.”

Cafodd yr ymchwil ei chyhoeddi yn y cyfnodolyn Journal of Archaeological Science: Reports.