Mae Deian a Loli, y gyfres deledu boblogaidd i blant yn camu i fyd theatr byw am y tro cyntaf erioed.

Mae Deian a Loli – Y Ribidirew Olaf yn gynhyrchiad newydd sbon sydd wedi ei ddatblygu i’r llwyfan.

Mae’r gyfres deledu, sydd wedi ennill llu o wobrau cenedlaethol, gan gynnwys sawl gwobr BAFTA Cymru, yn dilyn anturiaethau efeilliaid direidus sy’n meddu ar bwerau hudol.

Drwy ddweud y gair hud – RIBIDIREW! – maen nhw’n gallu rhewi eu rhieni.

Mae’r cynhyrchiad newydd wedi ei ddatblygu gan dîm craidd y gyfres deledu wreiddiol sef Angharad Elen fel Cynhyrchydd Creadigol, Manon Wyn Jones fel Dramodydd a Martin Thomas fel Cyd-gyfarwyddwr gyda Gethin Evans.

Bydd y sioe yn teithio 5 theatr ledled Cymru ym mis Ebrill a Mai 2024 – gyda thocynnau’n mynd ar werth ar Hydref 25.

Mae Deian a Loli – Y Ribidirew Olaf yn cael ei chynhyrchu gan Frân Wen mewn partneriaeth â Pontio gyda chefnogaeth Cwmni Da, sef cynhyrchwyr y gyfres deledu.

‘Antur newydd’

“Rydym wrth ein bodd cyhoeddi antur newydd Deian a Loli a dod â’r efeilliaid eiconig i fyd y theatr,” meddai Gethin Evans, Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen.

“Mae’n gyfrifoldeb mawr ond yn un rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar ato – mae gweledigaeth y tîm creadigol yn llawn o’r hud, sensitifrwydd a’r ddrama rydyn ni’n ei gysylltu â Deian a Loli… gydag ambell syrpreis hefyd!

“Unwaith eto, rydyn ni yn Frân Wen yn cydweithio â rhai o dalentau creadigol mwyaf cyffrous Cymru wrth i ni ddod â’r stori epig hon o ddewrder, antur a dychymyg yn fyw ar lwyfan i blant ledled y wlad.”

‘Cyffroi yn arw’

Mae Angharad Elen, a gafodd ei hysbrydoli i greu y gyfres deledu Deian a Loli gan ei phlant ei hun, Cain a Syfi, yn “edrych ymlaen yn fawr i rannu’r antur newydd yma efo cynulleidfa fyw.”

“Byd hud, llawn dychymyg ydi byd Deian a Loli, ac felly mae’r syniad o gyflwyno’r byd ffantasïol hwnnw mewn gofod theatrig yn fy nghyffroi yn arw. Mae’n ofod lle y gall dychymyg redeg a rasio, lle mae’r cyffredin yn troi’n anghyffredin a lle mae unrhyw beth yn bosib. Ac, wrth gwrs, mi fydd yn wefr o fath gwahanol i ffans y gyfres deledu i rannu’r un gofod â Deian a Loli, a profi’r anturiaethau yr un pryd â nhw. Fedra’i ddim aros i weld yr ymateb!”

Meddai Llion Iwan, Rheolwr Cyfarwyddwr Cwmni Da: “Mae Cwmni Da yn falch iawn i weld Deian a Loli yn ymddangos ar lwyfan theatrau Cymru. Mae’r rhaglen yn amlwg wedi ennill ei lle yng nghalonnau miloedd o blant Cymru ers iddi ymddangos ar ein sgriniau am y tro cyntaf yn 2016.

“Does ’na ddim cwmni gwell na Frân Wen i ddod â’r cymeriadau yn fyw ar lwyfan ac rydyn ni’n ffyddiog bydd y sioe yn llwyddiant enfawr.”

Bydd tocynnau Deian a Loli – Y Ribidirew Olaf ym mynd ar werth am 10am ddydd Mercher, 18 Hydref 2023.