Mae’r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans wedi bod yn amlinellu yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Hydref 17) sut y bydd yn mynd i’r afael â diffyg o £900m yn y gyllideb.
Wrth annerch Aelodau’r Senedd am y newidiadau i wariant cyhoeddus, dywedodd fod y diffyg o ganlyniad i chwyddiant, effeithiau llymder a “chanlyniadau parhaus” Brexit.
Ond byddai’r pecyn i fynd i’r afael â’r diffyg yn lleihau’r effaith ar bobol a gwasanaethau cyhoeddus, meddai.
Dywedodd Rebecca Evans fod pob adran yn y Senedd ar wahân i iechyd a newid hinsawdd wedi gorfod gwneud arbedion.
Fe fydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn wynebu’r “pwysau ariannol anoddaf yn hanes diweddar”, meddai.
Mae hynny oherwydd effaith chwyddiant ar gostau, gan gynnwys ynni, meddyginiaethau a chyflogau.
Mae Covid hefyd yn parhau i achosi problemau, meddai.
Dywed y bydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cael £425m yn ychwanegol, ond y bydd byrddau iechyd yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn.
Mae’r grant cynnal refeniw, sy’n cael ei roi i gynghorau i dalu am ysgolion a gofal cymdeithasol, hefyd wedi’i ddiogelu rhag y fwyell.
Mae gwasanaethau rheilffordd yn wynebu pwysau oherwydd costau ychwanegol, meddai, gan ddweud y bydd cyllid Trafnidiaeth Cymru yn cael ei gynyddu gan £125m i “ddiogelu gwasanaethau i deithwyr a pharhau â’r rhaglen drawsnewid sydd ar y gweill ar hyn o bryd”.
Ond bydd toriadau i gyllidebau ysgolion sydd wedi cael eu taro gyda thoriad o £40m yn eu cyllideb gwariant cyfalaf.
‘Camreoli eu cyllideb’
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywed Peter Fox, llefarydd cyllid y Ceidwadwyr Cymreig, fod y Llywodraeth Lafur “wedi camreoli eu cyllideb yn arw” trwy wario ar “brosiectau diangen”.
“Mae Llafur yn parhau i orfodi toriad mewn termau real yn y gyllideb iechyd, tra’n gwario £120m ar 36 yn fwy o wleidyddion y Senedd, a chyfyngiadau cyflymder cyffredinol o 20mya sy’n costio hyd at £9bn i economi Cymru,” meddai.
“Mae’n amlwg, mae gan Lafur y blaenoriaethau anghywir.”