Mae nythfa o adar môr “yn ffynnu” ar Ynys Môn yn sgil gwaith i’w gwarchod.
Yn ôl arolygon, mae 118 pâr o fôr-wenoliaid pigddu wedi ymgartrefu ar ynys fechan yn y Lasinwen, y dŵr rhwng Ynys Môn ac Ynys Cybi, i fridio, gan fagu o leiaf 71 o gywion.
Cafodd nythfa newydd o fôr-wenoliaid pigddu eu gweld ar ynys fechan yn y Lasinwen yn Ynys Môn yn 2022 gan ŵr lleol oedd yn gwylio adar.
Wedi i Mark Sutton gysylltu â’r RSPB, aeth y corff ati i fonitro a diogelu’r ynys a chyflogi warden tymhorol i ofalu am y nythfa.
Prynodd Llywodraeth Cymru yr ynys pan gafodd ffordd yr A55 ei hadeiladu ar draws Ynys Môn, yn y gobaith y gallai ddod yn safle nythu i fôr-wenoliaid ryw ddydd.
‘Poblogaeth fwy gwydn’
Yn ogystal, mae’r ynys yn gartref i 157 pâr bridio o wylanod penddu a fagodd dros gant o gywion eleni, ynghyd â thua 40 pâr o fôr-wenoliaid cyffredin a môr-weinoliaid y gogledd.
Mae’r Lasinwen o fewn Ardal Gwarchodaeth Arbennig Môr-wenoliaid Môn sy’n cynnwys nythfeydd mwy o fôr-wenoliaid yn Ynysoedd y Moelrhoniaid a Morlyn Cemlyn.
“Er bod y nythfa wedi dod i ychydig o gysylltiad â’r Ffliw Adar, yn ffodus mae wedi llwyddo i osgoi unrhyw niwed sylweddol yn sgil y clefyd hwn sydd wedi achosi cymaint o ddinistr mewn nythfeydd adar môr yn y Deyrnas Unedig eleni a’r llynedd, gan ei wneud yn bwysicach fyth yn y cyfnod ansicr hwn,” meddai Ian Sims, Warden RSPB Cymru.
“Efallai mai hon yw’r nythfa leiaf ar hyn o bryd, ond mae’n golygu bod y boblogaeth môr-wenoliaid o fewn yr Ardal Gwarchodaeth Arbennig yn fwy gwydn – ac mae gan y nythfa hefyd botensial gwych i dyfu.
“Gyda rhywfaint o lwc a rhywfaint o ofal dyna’n union yr ydym yn gobeithio ei weld yn y blynyddoedd nesaf.”
‘Newyddion gwych’
Cafodd yr arian ar gyfer cyflogi warden tymhorol ei roi drwy Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru, sy’n rhan o Lywodraeth Cymru.
“Mae clywed am nythfa fôr-wenoliaid newydd ar Ynys Môn yn newyddion gwych,” meddai Dawn Bowden, Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru.
“Mae’n wych i wylwyr adar, a gobeithio y bydd yn arwain at boblogaeth gynyddol a ffyniannus o fôr-wenoliaid ledled Cymru.
“Rwy’n gobeithio y bydd yn parhau i gynnal poblogaethau, cynyddu bioamrywiaeth a gwella gwytnwch ein hadar môr sy’n hanfodol bwysig, yn enwedig yn wyneb pwysau fel y Ffliw Adar Pathogenig Iawn.”