Bydd yr actor Hollywood Michael Sheen yn portreadu Aneurin ‘Nye’ Bevan mewn cynhyrchiad newydd am sylfaenydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae’r ddrama Nye yn cael ei chyd-gynhyrchu gan y National Theatre a Chanolfan Mileniwm Cymru. Bydd yn dod i Gaerdydd ym mis Mai y flwyddyn nesaf.

Bydd Nye yn cyfleu bywyd a gwaddol Aneurin ‘Nye’ Bevan, cyn-löwr o Dredegar a drawsnewidiodd gwladwriaeth les y Deyrnas Unedig. Bydd y ddrama yn ei harwain ar daith yn ôl drwy ei fywyd – o’i blentyndod i gloddio dan ddaear, Senedd San Steffan a dadleuon gyda Churchill.

Mae’r ddrama wedi’i hysgrifennu gan Tim Price, y dramodydd a’r sgrin-awdur o Gymru, a’i chyfarwyddo gan Rufus Norris, Cyfarwyddwr Artistig y National Theatre.

Mae Michael Sheen, sy’n dod o Bort Talbot yn wreiddiol, wedi ymddangos mewn ffilmiau fel The Queen a The Damned United, y gyfres deledu Masters of Sex, a’r ddrama lwyfan Under Milk Wood.

Yr actorion eraill o Gymru fydd yn cymryd rhan yn Nye yw Rhodri Meilir, Remy Beasley, Roger Evans, Kezrena James, a Rebecca Killick.

Aneurin ‘Nye’ Bevan

‘Eicon’

“Rydyn ni wrth ein bodd i fod yn cydweithio â’r National Theatre unwaith eto, yn dod â hanes y diwygiwr radical Cymreig hwn i gynulleidfaoedd dafliad carreg o gymunedau’r Cymoedd a siapiodd Nye Bevan a’i weledigaeth,” meddai Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru.

“Yn y ddrama newydd hon gan Tim Price croesawn Michael Sheen i berfformio yng Nghymru unwaith eto. Eicon newid cymdeithasol Cymreig, wedi’i chwarae gan eicon Cymreig ar lwyfan a sgrin, o dan ein to eiconig Cymreig.

“Mae dod â’r hanes i gartref Nye Bevan yng Nghymru yn teimlo’n arbennig, ac mae’n ffordd briodol o anrhydeddu ei etifeddiaeth drwy’r cynhyrchiad hwn,” meddai Rufus Norris, Cyfarwyddwr Artistig y National Theatre.”

Mi fydd tocynnau Nye ar werth i’r cyhoedd o ddydd Gwener, Hydref 27. Bydd yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru am bythefnos rhwng Mai 18 – Mehefin 1 y flwyddyn nesaf.