Cafodd dau gefnogwr rygbi Cymru eu cludo i’r ysbyty yn dilyn ymosodiad honedig gan ddau gefnogwr o Loegr ym Marseille nos Sul (Hydref 15).
Roedd y dyn 57 oed a’i fab, 24, yn Ffrainc ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd.
Yn ôl adroddiadau, cafodd yr heddlu eu galw i un o strydoedd prysuraf y ddinas – y Canebière – toc cyn hanner nos.
Cafwyd hyd i’r tad yn gorwedd ar y llawr gydag anaf i’w ben, ac roedd ei fab hefyd wedi’i anafu.
Dywedodd y ddau wrth Heddlu Ffrainc fod dau o gefnogwyr Lloegr wedi ymosod arnyn nhw.
Cafodd y ddau eu cludo i’r ysbyty, a’u rhyddhau’n ddiweddarach.
Mae dyn yn ei 30au o wledydd Prydain wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Roedd y cefnogwyr ym Marseille ar gyfer gêm Cymru yn erbyn yr Ariannin, a Lloegr yn erbyn Ffiji hefyd.