Mae trigolion Biwmares ar fin symud i fyw i’r chwe fflat fforddiadwy newydd sydd wedi cael eu datblygu yng nghanol y gymuned.

Y fflatiau modern yn Steeple Lane, Biwmares ydi’r datblygiad diweddaraf i ddarparu tai fforddiadwy o safon i drigolion Ynys Môn.

Mae’r fflatiau wedi’u lleoli mewn adeilad modern newydd ar safle hen Glwb Cymdeithasol Biwmares, oedd yn wag a heb gael ei ddefnyddio ers 1995.

Cafodd y fflatiau eu hadeiladu gan Gareth Morris Construction Limited.

Roedd rhaid cael caniatâd Ardal Cadwraeth Arbennig, ac mae archeolegwyr wedi bod ynghlwm â’r prosiect gan fod mur a ffos o’r bymthegfed ganrif wedi cael eu darganfod ar y safle yn y gorffennol.

Calon y gymuned

Mae’r Cynghorydd Gary Pritchard, dirprwy arweinydd y Cyngor sydd â chyfrifodleb dros Dai, ynghyd â’i gyd-aelodau Carwyn Jones ac Alun Roberts wedi croesawu’r datblygiad.

Yn ôl Gary Pritchard, mae hwn yn gyfle i ddarparu tai fforddiadwy i drigolion yng nghanol y gymuned.

“Dyma’r prosiect diweddaraf i ddatblygu tai cyngor ar yr Ynys,” meddai.

“Mae’n cynrychioli’n hymrwymiad parhaus i ddarparu tai cymdeithasol fforddiadwy i denantiaid lleol ynghanol y gymuned.

“Mae cynyddu stoc dai’r Cyngor wedi’i gynnwys fel targed strategol yn ein Strategaeth Dai (2022-2027).”

Gweddnewid clwb cymdeithasol

Cafodd hen adeilad Clwb Cymdeithasol Biwmares ei brynu gan y Cyngor drwy Orchymyn Prynu Gorfodol (CPO), gan fod yr adeilad wedi mynd â’i ben iddo ac mewn cyflwr peryglus.

Mae’r safle wedi’i leoli ger tri adeilad rhestredig gradd II – Carchar Biwmares, gafodd ei adeiladu yn 1929, Eglwys y Santes Fair a Sant Nicolas, a Chanolfan Iorwerth Rowlands – ynghanol y dref ganoloesol wreiddiol.

Mae adeilad yr hen glwb cymdeithasol wedi cael ei weddnewid i greu’r chwe fflat modern gyda chegin ac ystafell fyw cynllun agored, gofod storio ac ystafell ymolchi.

Mae ymateb i’r her tai lleol wedi’i nodi fel amcan strategol yng Nghynllun y Cyngor, er mwyn sicrhau bod gan bawb rywle i’w alw’n ‘gartref’.

Mae’r fflatiau wedi cael eu dylunio i fod yn effeithlon o ran ynni, i gyd-fynd â Chynllun Tuag at Sero Net y Cyngor (2022-2025).

“Cafodd y safle ei nodi fel lleoliad posib ar gyfer datblygiad tai gan fod yr adeilad wedi bod yn wag am bron i ugain mlynedd,” meddai Ned Michael, Pennaeth Gwasanaethau Tai Ynys Môn.

“Roedd y prosiect yn gyfle i’r Cyngor ychwanegu at ei stoc dai, sicrhau dyfodol hirdymor i’r safle a darparu tai fforddiadwy o safon i drigolion lleol.

“Rydym yn gweithio gyda phartneriaid allweddol yn cynnwys Llywodraeth Cymru, cymdeithasau tai ac asiantaethau eraill i wneud yn siŵr ein bod ni’n cwrdd â’n hanghenion tai drwy gynnig daliadaethau amrywiol mewn cymunedau lleol.”