Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i annog mwy o amrywiaeth mewn llywodraeth leol, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.

Mae ymchwiliad diweddaraf y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi canfod nad yw cynghorau tref a chymuned ac awdurdodau lleol yn gynrychioliadol o’r boblogaeth o hyd.

Er gwaethaf rhai gwelliannau diweddar, does dim cynrychiolaeth deg o hyd i fenywod, pobol o gefndir lleiafrifoedd ethnig a phobol ag anableddau.

Un o brif argymhellion yr adroddiad oedd y dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gallai mwy o bobol o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol elwa ar gymorth i gyflwyno’u henwau ar gyfer etholiadau.

Helpu pobol ag anableddau

Dywed y pwyllgor eu bod nhw’n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’w Chronfa Mynediad i Swyddi Etholedig, ond eu bod nhw’n credu bod angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o’i bodolaeth.

Ar hyn o bryd, mae’r fenter hon yn cefnogi pobol ag anableddau i sefyll am etholiad, drwy ddarparu cymorth a grantiau i ganiatáu chwarae teg gydag ymgeiswyr nad oes ganddyn nhw anableddau.

Gellid defnyddio grant, er enghraifft, i dalu rhywun i helpu i ddosbarthu taflenni o ddrws i ddrws, pan na fydd symudedd yr ymgeisydd yn caniatáu iddyn nhw wneud hyn eu hunain, neu i dalu am ddehonglydd Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer hystings gwleidyddol.

Mae’r pwyllgor yn argymell y gellid datblygu cynllun cymorth hefyd i gynorthwyo grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, fel pobol o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, ac y dylai hefyd gael ei ehangu o ran y math o gefnogaeth y gall ei chynnig.

Er enghraifft, gall pobol ar incwm isel neu bobol â chyfrifoldebau gofalu elwa ar gymorth ariannol, ond i eraill byddai cymorth fel mentora ac ymdrin ag aflonyddu neu gam-drin fel ymgeisydd yn fwy priodol.

‘Codi cwestiynau pwysig am ein democratiaeth’

Yn ôl John Griffiths, cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, mae’r adroddiad yn “codi cwestiynau pwysig am ein democratiaeth”, ac yn gofyn “a yw’n gynrychioladol o bawb sy’n byw yng Nghymru”.

“Yn anffodus, mae’n amlwg bod llawer mwy o waith i’w wneud o hyd i sicrhau bod llywodraeth leol yn cynrychioli pobol o bob cefndir,” meddai.

“Mae angen i gynllun cymorth sy’n cefnogi pobol sy’n cael eu tangynrychioli mewn gwleidyddiaeth fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru os ydym o ddifrif am wella amrywiaeth ein cynrychiolwyr lleol.

“Rwy’n falch o weld darpariaeth ar gyfer hyn yn y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru), y byddwn yn craffu arno dros y misoedd nesaf.”

Gwella trefniadau casglu data

Clywodd y pwyllgor gan Gymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru fod cyfran y cynghorwyr benywaidd wedi cynyddu o 28% yn 2017 i 36% yn 2022, ond fod hyn yn gynnydd araf iawn yn eu barn nhw.

Yn ogystal â hyn, mae diffyg data difrifol ynghylch cefndiroedd ymgeiswyr.

Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol arolygu’r holl ymgeiswyr ar gyfer cynghorau am eu cefndiroedd, ond dim ond 12% ymatebodd i’r arolwg y llynedd.

Mae’r pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agos gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i wella’r gyfradd ymateb i’r Arolwg Ymgeiswyr Llywodraeth Leol.

Dylai hyn gynnwys cynyddu ymwybyddiaeth a hyrwyddo’r arolwg ymhlith ymgeiswyr a chynghorwyr, a rhannu arfer gorau rhwng awdurdodau lleol.

“Rydym yn gwybod fod rhai enghreifftiau o arfer da eisoes yn digwydd, yn enwedig yn Sir Fynwy a Bro Morgannwg, ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i hwyluso cynghorau i ddysgu oddi wrth ei gilydd,” meddai John Griffiths.

“Ar hyn o bryd, mae prinder data cadarn ar gael, ac mae’n rhaid gwneud gwaith i gael darlun cywir o’r sefyllfa yng Nghymru.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar yr argymhellion hyn fel y gallwn symud yn gadarnhaol at ddemocratiaeth fwy cynrychioliadol yng Nghymru.”