Mae’r gwaharddiad ar ddefnyddio maglau a thrapiau glud yn dod i rym heddiw (dydd Mawrth, Hydref 17).
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd yn helpu i roi terfyn ar ddioddefaint i bob math o anifeiliaid.
Dyma’r gwaharddiad cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig, ar ôl i fesur gael ei gynnwys yn Neddf Amaethyddiaeth gyntaf Cymru, ac mae’r gwaharddiad ar faglau yn un o’r ymrwymiadau gafodd eu gwneud yn y Rhaglen Lywodraethu.
Mae maglau, neu atalyddion cebl fel maen nhw’n cael eu galw weithiau, yn achosi llawer iawn o ddioddefaint i anifeiliaid.
Maen nhw’n gallu niweidio rhywogaethau megis dyfrgwn, cŵn a chathod nad yw’r maglau a thrapiau wedi’u creu ar eu cyfer.
Gall anifail sy’n cael ei ddal mewn magl wynebu poen difrifol a dioddefaint ofnadwy.
Yn yr un modd, mae trapiau glud hefyd yn achosi dioddefaint i’r anifail sydd wedi’i ddal, gan gynnwys cnofilod ac anifeiliaid eraill fel cathod.
Os yw anifeiliaid anwes fel cathod yn cael eu dal mewn trap glud, gall arwain at sefyllfa ofnadwy lle mae’n rhaid difa’r anifail oherwydd ei anafiadau.
‘Diwrnod hanesyddol i les anifeiliaid’
Mae digon o ffyrdd eraill ar gael i reoli anifeiliaid ysgylyfaethus, ac er bod yn rhaid rheoli cnofilod pan fo dulliau i’w hatal wedi methu, mae yna ffyrdd llai creulon, wedi’u targedu o wneud hynny, yn ôl y Llywodraeth.
“Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i les anifeiliaid,” meddai Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig.
“Rydyn ni am gyrraedd y safonau uchaf posibl o ran lles anifeiliaid yng Nghymru, ac mae defnyddio maglau a thrapiau glud yn gwbl anghydnaws â’r hyn rydyn ni am ei gyflawni.
“Bydd llawer o anifeiliaid yn cael eu harbed rhag y dioddefaint mwyaf ofnadwy o ganlyniad i’r gwaharddiad hwn.
“Dw i’n falch mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno cam o’r fath.
“Nid atal pobol rhag rheoli anifeiliaid ysglyfaethus neu gnofilod yw’r nod wrth wahardd maglau a thrapiau glud.
“Mae ffyrdd eraill llai creulon o wneud hynny.
“Hoffwn i ddiolch i’n holl bartneriaid sydd wedi gweithio’n galed i sicrhau’r gwaharddiad hwn, a dw i’n edrych ’mlaen at barhau i sicrhau bod gennym y safonau uchaf un o ran lles anifeiliaid yng Nghymru.”
Croesawu’r cam
Dywedodd Rob Taylor, Cydlynydd Troseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt Cymru, ei fod yn croesawu’r gwaharddiad.
“Mae’r trapiau hyn yn lladd pob math o anifeiliaid yn ddiwahân, a thros y blynyddoedd, dw i wedi gweld drosof fy hun fod gwahanol rywogaethau sy’ ddim yn cael eu targedu, fel moch daear a chathod, yn cael eu dal mewn maglau ac yn dioddef anafiadau ofnadwy,” meddai.
“Ar ôl heddiw, gallai unrhyw un sy’n cael ei ddal yn defnyddio magl neu drap glud yng Nghymru wynebu dirwy neu garchar, felly rydyn ni’n cynghori pobol i fod yn ymwybodol o’r gyfraith newydd hon ac i weithredu yn unol â hynny.”
Mae RSPCA Cymru hefyd yn croesawu’r gwaharddiad.
“Mae gan y ddau y potensial i achosi dioddefaint anfesuradwy i anifeiliaid,” meddai Billie-Jade Thomas, uwch-reolwr materion cyhoeddus yr elusen.
“Yn rhy aml, mae’n swyddogion wedi delio ag anifeiliaid sydd mewn poen difrifol ac yn dioddef yn ofnadwy oherwydd y dyfeisiau hyn; sy’n greulon, yn anafu popeth yn ddiwahân ac yn gwbl ddiangen.
“Bydd bywydau llawer o anifeiliaid yn cael eu hachub, gan gynnwys bywyd gwyllt, anifeiliaid anwes ac anifeiliaid fferm fel defaid ac ŵyn.”