Bydd Anabledd Cymru’n cynnal cynhadledd genedlaethol yn trafod cynrychioli a phortreadu pobol ag anableddau yn y cyfryngau heddiw (dydd Mawrth, Hydref 17).
Mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal yng Nghlwb Criced Morgannwg ac ar-lein, gan archwilio cynrychiolaeth o bobol anabl ar draws y cyfryngau print a digidol, gan dynnu ar enghreifftiau cadarnhaol a negyddol.
Bydd yn ysgogi sgyrsiau pwysig rhwng y rhai sy’n ymddangos yn y straeon a’r rhai sy’n gyfrifol am eu rhannu, medd trefnwyr y gynhadledd sy’n cael ei noddi gan S4C.
“Dros y blynyddoedd, anaml y mae straeon yn y cyfryngau am bobol anabl wedi bod yn adlewyrchiad cywir o’r bywydau rydym yn eu byw a’r rhwystrau cymdeithasol rydym yn eu hwynebu,” meddai llefarydd ar ran Anabledd Cymru.
“Yn amlach na pheidio, mae straeon yn glynu at ystrydebau gyda nodweddion sy’n bytholi pobol anabl fel chwilwyr budd-daliadau neu, mewn cyferbyniad, yn cael eu cyflwyno fel arwyr sydd wedi cyflawni campau mawr.
“Ar y llaw arall, gwyddom y gall y cyfryngau fod yn arf gwych i herio’r stereoteipiau hyn a gallan nhw wasanaethu fel grym pwerus o ran newid barn cymdeithas am anabledd, hyrwyddo ein hawliau a chodi ymwybyddiaeth o’r rhwystrau sy’n ein hanablu.
“Gall portreadau yn y cyfryngau, boed yn dda neu’n ddrwg, gael effaith barhaol ar gymdeithas a phobol anabl eu hunain.
“Dyna pam mae Anabledd Cymru yn dod â darlledwyr, newyddiadurwyr a phobol anabl sy’n gweithio’n agos gyda’r cyfryngau at ei gilydd heddiw i drafod beth sy’n gweithio a beth sydd angen ei newid.”
Natur a threfn y diwrnod
Bydd darlledwyr mawr a’r cyfryngau fel BBC Cymru, ITV Cymru, S4C a WalesOnline yn cymryd rhan mewn trafodaeth banel i archwilio i ba raddau mae pobol anabl yn cael eu cynrychioli ar draws y cyfryngau ar hyn o bryd, a meddwl am yr effaith mae portreadu yn y cyfryngau yn ei chael ar agweddau cymdeithasol a phobol anabl eu hunain.
Bydd y panel yn cael ei gadeirio gan Rachel Charlton-Dailey, yr actifydd anabledd a newyddiadurwr arobryn, fydd hefyd yn traddodi araith gyweirnod fel rhan o ddigwyddiadau’r dydd.
“Ers rhy hir mae cynrychiolaeth anabledd yn y cyfryngau wedi canolbwyntio ar drawma neu ysbrydoliaeth, dwi’n hynod angerddol am bwysigrwydd dangos ni fel pobol go iawn sydd ddim angen trueni,” meddai.
“Dyna pam rydw i’n edrych ymlaen gymaint at Gynhadledd Anabledd Cymru a’r sgyrsiau grymusol y bydd yn eu hysgogi.”
Bydd y gynulleidfa hefyd yn clywed gan Jane Hutt, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Phrif Chwip Llywodraeth Cymru; Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth; Natasha Hirst, Llywydd Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ), a llawer mwy.
Blaenoriaeth i Gymru Greadigol
Yn ôl Jane Hutt, mae’n rhaid i’r portread o bobol ag anableddau yn y cyfryngau “adlewyrchu eu hunigoliaeth”, ac mae’n “rhaid gweld pobol anabl fel maen nhw, pobol go iawn gyda straeon unigol go iawn, ac nid rhai hen stereoteipiau blinedig”.
“Fel rhan o waith y Tasglu Hawliau Anabledd, rydym yn edrych ar roi ymyriadau ar waith i helpu i lywio sut mae cynrychiolaeth pobol anabl yn y cyfryngau yn symud o un sy’n cael ei dominyddu gan ystrydebau i un sy’n adlewyrchu amrywiaeth y gymuned anabl,” meddai.
Dywed Dawn Bowden fod “cefnogi amrywiaeth mewn darlledu, o flaen a thu ôl i’r camera, yn flaenoriaeth i Gymru Greadigol ac mae’n cyd-fynd ag ymrwymiadau ehangach y Rhaglen Lywodraethu i amrywiaeth a chynhwysiant”.
“Mae pob un ohonom eisiau sector cyfryngau yng Nghymru sy’n adlewyrchu ac yn cynrychioli cynulleidfaoedd yn llawn ac sy’n darparu cyfleoedd cyflogaeth teg a hygyrch ac sy’n denu, yn datblygu ac yn cadw talent amrywiol,” meddai.
“Rydym eisiau sector sy’n darparu cynnwys sy’n adrodd y straeon ac yn adlewyrchu bywydau pobl anabl, adlewyrchiad gwirioneddol nad yw’n disgyn yn ôl ar ystrydebau.”
Yn ôl Anabledd Cymru, mae angen i bobol ag anableddau chwarae eu rhan mewn siapio’r maes hefyd.
“Mae’n bryd i bobl anabl ofyn y cwestiynau wrth i ni annog darlledwyr ac allfeydd newyddion i feddwl am sut maen nhw’n adrodd ein straeon a beth ellir ei wneud i herio ystrydebau yn hytrach na’u tanio,” meddai llefarydd.
Gosod sylfaen i’r dyfodol
Penllanw’r gynhadledd fydd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Anabledd Cymru.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gadeirio gan Emma Meese, Cyfarwyddwr Newyddiaduraeth Gymunedol ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bydd cwestiynau i’r panel a thrafodaethau eraill yn gyfle i gael sgyrsiau bywiog, ac yn rhoi’r cyfle i bobol ag anableddau rannu’r hyn maen nhw ei eisiau gan y cyfryngau wrth symud ymlaen.
Mae’r gynulleidfa yn yr ystafell ac ar-lein yn cynnwys pobol ag anableddau a’u cynghreiriaid, cynrychiolwyr o sefydliadau pobol ag anableddau o bob rhan o Gymru, cynrychiolwyr y trydydd sector a’r sector cyhoeddus, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol y cyfryngau.
Yn ôl Anabledd Cymru, y gobaith yw y bydd mynychwyr y gynhadledd yn cnoi cil ar drafodaethau’r diwrnod, yn barod ar gyfer eu stori nesaf.
“P’un a yw’n ymddangos mewn neu’n cynhyrchu cynnwys, mae cynrychiolaeth yn bwysig ac mi fydd cynhadledd Anabledd Cymru yn tynnu sylw at bobol anabl a’r cyfryngau,” meddai’r Prif Weithredwr Rhian Davies.
“Mewn sawl ffordd yn arf pwerus ar gyfer cyrraedd miliynau gyda’ch neges, gall y cyfryngau hefyd danseilio blynyddoedd o ymgyrchu hawliau anabledd trwy barhau â hen tropes a stereoteipiau diog.
“Mae ein cynhadledd yn rhoi cyfle cyffrous i ddod â rhanddeiliaid allweddol ynghyd i sicrhau bod y cyfryngau’n adlewyrchu’r newidiadau yn y gymdeithas a ddaeth yn sgil actifiaeth pobol anabl.”