Mae trigolion Wrecsam fu’n siarad â golwg360 wedi croesawu dyfodiad bwyty Hickory’s Smokehouse i’r ddinas, ar safle hen dafarn y Squire Yorke.
Fis Mai, daeth cyhoeddiad bod y cwmni Greene King am ddod â’r bwtyty i’r gogledd-ddwyrain.
A hwythau’n berchen ar y Squire Yorke ers mis Hydref y llynedd, y bwriad oedd ei leoli yno ar Ffordd Sontley, Coed-y-glyn.
Fis Awst, cyhoeddodd Hickory’s eu bod nhw bellach ar agor i gwsmeriaid archebu bwrdd yn y bwyty newydd o Dachwedd 20.
Yr wythnos diwethaf, roedd hysbyseb ar y dudalen ‘Wrexham Town Matters’ ar Facebook am ddiwrnod recriwtio staff i’r bwyty, fydd yn cael ei gynnal ddydd Mercher (Hydref 18) rhwng 11yb- 7yh yn Nhŷ Pawb.
Wrth i’r dyddiad pan fydd y bwyty yn agor ei drysau nesáu, fe fu golwg360 yn clywed ymateb pobol y fro i’r gynlluniau.
Y bwyty
Agorodd yr Hickory’s gyntaf erioed yng Nghaer yn 2010, ar lannau afon Ddyfrdwy.
Yn ôl y wefan, cafodd ei ysbrydoli gan daith drwy daleithiau deheuol yr Unol Daleithiau gan y sawl wnaeth greu’r busnes.
Wrth flasu’r bwydydd BBQ yn Ne Carolina, Memphis a Kansas y cafodd y syniad i ddod â’r bwydydd hyn i’r Deyrnas Unedig ei greu.
Erbyn hyn, mae deunaw bwyty ar hyd a lled y wlad, gan gynnwys un yn Llandrillo yn Rhos ac un arall yn yr Amwythig.
Maen nhw i gyd yn cynnig yr un fwydlen ac awyrgylch, ac estheteg sy’n cyd-fynd â’r bwyd.
Yn Hickory’s Coed-y-glyn, bydd cyntedd ac ardal chwarae i’r plant y tu allan i’r adeilad, ac ystafell sinema hefo man ‘cwstard wedi’i rewi’, a toppings gwahanol i’r plant gael creu eu pwdin eu hunain.
Mae yna fwriad i ddangos chwaraeon, megis pêl-droed Americanaidd yr NFL, ac maen nhw wedi bod yn hysbysebu am gerddorion blŵs a chanu gwlad.
Cefndir
Tafarn draddodiadol fu ar y safle ers talwm.
Yn y 1980au, doedd plant ddim yn cael mynd i’r brif ystafell, ond roedd yna ‘ystafell teulu’ lle gallen nhw fynd i gael sudd oren a chreision, cyn mynd yn ôl allan i’r ardal chwarae.
Erbyn y 1990au, roedd wedi troi’n ‘Big Steak pub’, yn gweini bwydydd traddodiadol i’r teulu cyfan.
Cafodd ‘Wacky Warehouse’ ei adeiladu, oedd yn llawn pyllau peli a sleidiau i’r plant, a gofod lle roedd modd i rieni gadw golwg arnyn nhw wrth gael paned.
Mae’r adeilad yn ardal drefol Erddig, ryw filltir a hanner o Blasty Erddig yng nghanol y goedwig a’r caeau.
Cafodd y dafarn ei henwi’n Squire Yorke ar ôl sgwier olaf ystâd Erddig, Philip Scott Yorke.
Wedi’i lleoli ryw filltir o ganol dinas-sir Wrecsam, dyma un o unig fwytai ardal Erddig.
Dod â cherddoriaeth newydd i Wrecsam
Cafodd yr hysbyseb ar Facebook am y diwrnod recriwtio ei rannu 84 o weithiau, gyda 55 sylw gan bobol leol yn copïo ffrindiau i mewn i argymell y swyddi iddyn nhw.
Cafodd y neges yn chwilio am gerddorion ei rhannu 64 o weithiau, gyda 191 sylw, eto yn copïo cerddorion i mewn – gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n awgrymu Megan Erica Lee, sy’n gerddor, cyfansoddwraig a chantores boblogaidd ifanc o’r Coedpoeth.
Yn gyn-ddisgybl Ysgol Morgan Llwyd, mae hi’n sgwennu caneuon canu gwlad ac ‘Americana’, ac mae hi wrth ei bodd hefo’r genre.
Buodd hi’n perfformio’i chân gyntaf yn y Gymraeg, Y Nawr, ar Noson Lawen ar ddechrau’r flwyddyn, ac mae hi eisoes mewn trafodaethau hefo Hickory’s i drefnu cerddoriaeth a pherfformiadau priodol.
“Fyswn yn dweud ei fod yn ffordd gyffrous i ddod â genres newydd o gerddoriaeth i Wrecsam!” meddai wrth golwg360.
“Er fod yna lawer o bandiau gwych yn Wrecsam, mi rydych chi’n tueddu i ffeindio eich hunain yn gwrando ar indie a roc.
“Felly mae’r venue newydd yma yn agor pethau fyny i genres megis canu gwlad, blŵs ac Americana!
“Mae’n sicr yn brofiad newydd i bobol Wrecsam.”
Prisiau
Ceisiodd golwg360 farn pobol ar dudalen Wrexham Town Matters ar Facebook ynghylch prisiau Hickory’s – gan gynnwys £5.25 am beint o gwrw Amstel.
Ysgogodd hyn 236 o sylwadau, gyda phawb i’w gweld yn angerddol gadarnhaol am y lleoliad newydd.
Bu rhai sylwadau hefyd yn cymharu’r prisiau â thafarndai a bwytai eraill Wrecsam, lle mae’r prisiau yn debyg neu hyd yn oed yn uwch.
Roedd sawl un i’w weld eisoes yn ffans o Hickory’s, ac yn edrych ymlaen at gael y bwyty yn eu bro, gyda rhai yn dweud eu bod nhw wedi bwcio i fynd yn barod.
Un ohonyn nhw sy’n croesawu’r datblygiad yw Arfon Jones, cyn-Gomisiynydd Heddlu’r Gogledd, sy’n byw yng Ngwersyllt.
“Dwi ddim wedi bod yn y Squire Yorke ers blynyddoedd,” meddai wrth golwg360.
“Fues i erioed yn ffan, wastad yn ei weld o’n lle bland a boring.
“Croesawu dyfodiad Hickory’s… bwyd blasus, gwahanol sy’n dod â rhywbeth gwahanol i’r ardal.
“Lle swnllyd, flamboyant, grêt i deuluoedd.”
Yr iaith Gymraeg?
Serch hynny, dydy’r wefan ddim yn ddwyieithog, gan gynnwys yr adran sy’n cyfeirio’n benodol at y bwyty newydd yn Wrecsam.
Fodd bynnag, roedd ambell beth wedi’i gyfieithu, megis ‘Rydym ni’n dod i Wrecsam’, sy’n arwydd da, o bosib.