Mae Plaid Cymru a’r SNP wedi adnewyddu prosiect annibyniaeth sy’n “gwlwm undod” rhwng Cymru a’r Alban.
Nod y prosiect yw sicrhau annibyniaeth i Gymru a’r Alban, wrth i Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, a Humza Yousaf, Prif Weinidog yr Alban ac arweinydd yr SNP, ailddatgan cynghrair ac ymrwymiad eu pleidiau i greu “cenhedloedd tecach a mwy llewyrchus trwy annibyniaeth”.
Bu’r ddau arweinydd yn annerch cynhadledd flynyddol yr SNP dros y penwythnos, gyda Rhun ap Iorwerth hefyd yn rhoi ei anerchiad brawdol cyntaf i’r gynhadledd.
Mae gan Gymru a’r Alban genhadaeth gyffredin, meddai’r arweinyddion, sef “gwella bywydau pobol ein priod wledydd”, a hynny’n “wrthgyferbyniad llwyr” i’r anghydraddoldeb sydd wrth wraidd y Deyrnas Unedig.
Gyda’i gilydd, maen nhw am adeiladu dyfodol lle mae cymunedau’n ffynnu a lle bydd gan blant ddyfodol mwy disglair, meddai’r ddau, gan ychwanegu bod hynny wedi’i adeiladu ar sail tegwch, cydraddoldeb a hunanbenderfyniad.
Cymru a’r Alban â “hanes hir wedi’i rwymo gan achos cyffredin”
“Mae’r SNP a Phlaid Cymru yn rhannu hanes hir, wedi’i rwymo gan achos cyffredin: i greu cenhedloedd tecach a mwy llewyrchus trwy annibyniaeth,” meddai Rhun ap Iorwerth a Humza Yousaf mewn datganiad ar y cyd.
“Heddiw, rydym yn falch o fod yn adnewyddu’r prosiect gwleidyddol a rennir hwnnw.
“O ddyddiau Gwynfor Evans a Winnie Ewing, mae ein pleidiau wedi sefyll ochr yn ochr, ac wedi creu cynghrair unigryw yn yr ynysoedd hyn, un y byddwn yn ymdrechu i’w chryfhau ymhellach.
“Ein cenhadaeth ar y cyd yw gwella bywydau pobol ein priod genhedloedd, mewn gwrthwynebiad llwyr i’r anghydraddoldeb sydd wrth galon y Deyrnas Unedig.
“Rydym yn bodoli i roi’r offer sydd eu hangen ar ein gwledydd priodol i chwarae eu rhan yn llawn.
“Gyda’n gilydd, rydym yn adeiladu dyfodol lle mae ein cymunedau’n ffynnu, a lle mae gan ein plant ddyfodol mwy disglair.
“Nid partneriaeth yn unig yw hon; mae’n fond o undod.
“Heddiw, rydym yn ymrwymo i adnewyddu’r cwlwm hwnnw, dan arweiniad ein hegwyddorion cyffredin o degwch, cydraddoldeb a hunanbenderfyniad.”