Mae ymgyrchwyr fu’n brwydro i gadw gorsafoedd tân y gogledd ar agor wedi croesawu’r newyddion bod Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd wedi gwneud tro pedol.

Eu bwriad gwreiddiol oedd cau pum gorsaf ar alw

Mae ymgyrchwyr wedi croesawu’r newyddion bod Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi gwneud tro pedol ar gynlluniau i gau pump o orsafoedd tân ar alwad ar draws gogledd Cymru.

Ymgynghoriad

Yn rhan o ymgynghoriad rhwng Gorffennaf a Medi, cyflwynodd Gwasaneth Tân ac Achub y Gogledd nifer o opsiynau i’w hystyried.

Yr opsiwn cyntaf oedd y byddai diffoddwyr yng Nghorwen, Dolgellau a Phorthmadog yn gweithio yn ystod y dydd.

Yr un oedd yr ail opsiwn, ynghyd â dileu tair injan dân yn Wrecsam a cholli 22 o swyddi.

Yr un oedd y trydydd opsiwn hefyd, ond gan gau gorsafoedd Llanberis, Biwmares, Abersoch, Cerrigydrudion a Chonwy, gan golli 36 o swyddi llawn amser a 38 o swyddi ar alw.

Roedd pob opsiwn hefyd yn cynnwys newid gorsafoedd y Rhyl a Glannau Dyfrdwy i fod yn orsafoedd dydd er mwyn sicrhau mwy o staff yng Nghorwen, Dolgellau a Phorthmadog.

‘Pobol wedi dychryn’

Yn ôl Catrin Wager, ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholaeth Bangor Aberconwy yn San Steffan, roedd yr opsiynau i gau’r gorsafoedd yn “dychryn” trigolion yr ardaloedd dan sylw.

Roedd ei deiseb yn gwrthwynebu’r trydydd opsiwn, sef dileu 74 o swyddi rheng flaen ar draws y gogledd, a chau pum gorsaf ar alw.

Ond mae hi’n dweud bod y penderfyniad i ddileu opsiynau 2 a 3 “yn golygu bod y mesurau mwyaf eithafol i dorri un o bob wyth o diffoddwyr tân ar draws gogledd Cymru wedi cael eu rhoi o’r neilltu”.

“Roedd pobol yng Nghonwy, Cerrigydrudion a thu hwnt wedi dychryn ynglŷn â’r posibilrwydd o golli eu gorsafoedd tân lleol,” meddai.

“Pe bai angen y gwasanaeth tân arnom, mae’n bwysig bod modd iddyn nhw gyrraedd cyn gynted ag y bo modd.

“Byddai’r toriadau llym oedd yn cael eu hargymell wedi rhoi bywydau yn y fantol, ac mae’n amlwg fod pobol wedi deall y goblygiadau.

“Mae’r ffaith bod cymaint o bobl wedi arwyddo ein deiseb yn dangos cryfder y teimlad sy’n bodoli ar y mater hwn.

“Mae hefyd yn dangos, trwy ddod at ein gilydd i sefyll yn erbyn penderfyniadau annoeth, y gallwn wneud gwahaniaeth.

“Diolch i bawb arwyddodd. Mae’n amlwg bod ein barn wedi ei chlywed.

“A diolch i’r Awdurdod Tân ac Achub am wrando.”

‘Anodd dod o hyd i ffermydd anghysbell’

Mae’r Cynghorydd Gwennol Ellis, sy’n cynrychioli un o’r cymunedau fyddai wedi colli eu gorsaf dân, yn cytuno.

“Rydan ni’n byw mewn ardal wledig, a gall fod yn anodd dod o hyd i ffermydd anghysbell,” meddai.

“Mae’r criw yma yn lleol, ac maen nhw yn y sefyllfa orau i gyrraedd tân yn gyflym oherwydd eu bod yn adnabod yr ardal gystal, ac maen nhw jest i lawr y ffordd.

“Byddai cau’r orsaf hon wedi bod yn golled enfawr i’r gymuned.”