Gall teuluoedd ar incwm isel gael hyd at £200 i helpu gyda hanfodion fel gwisg ysgol, esgidiau, bagiau, deunydd ysgrifennu, dillad chwaraeon ac offer, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Gall teuluoedd ar incwm is sy’n derbyn budd-daliadau penodol hawlio £125 y plentyn y flwyddyn i helpu gyda chostau ysgol.

Oherwydd y gost ychwanegol y gallai teuluoedd ei hwynebu pan fydd eu plant yn dechrau yn yr ysgol uwchradd, mae £200 ar gael i ddisgyblion sy’n mynd i Flwyddyn 7.

Mae modd defnyddio’r grant i dalu am:

  • wisg ysgol, gan gynnwys cotiau ac esgidiau
  • gweithgareddau ysgol, fel dysgu offeryn cerddorol, dillad chwaraeon ac offer ar gyfer gweithgareddau ar ôl ysgol
  • hanfodion ar gyfer yr ystafell ddosbarth, fel pennau ysgrifennu, pensiliau a bagiau

Dylai teuluoedd sy’n elwa ar y cynllun Prydau Ysgol am Ddim i Holl Blant Ysgolion Cynradd hefyd wirio eu cymhwystra am gymorth fel bod modd manteisio ar y Grant Hanfodion Ysgol.

Mae’n rhaid cofrestru cymhwystra ar gyfer y grant drwy’r awdurdod lleol – dydy hwn ddim ar gael yn ddiofyn.

Bydd ysgolion hefyd yn cael cyllid ychwanegol drwy’r Grant Datblygu Disgyblion, a bydd modd ei ddefnyddio i ddarparu cymorth ychwanegol i blant o deuluoedd ar incwm is.

‘Achubiaeth’

Y llynedd, fe wnaeth y grant helpu 100,055 o blant.

Mae Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Anne yn Wrecsam yn gobeithio gweld effaith fawr yn sgil y grant.

“Gall y Grant Hanfodion Ysgol fod yn achubiaeth i’n dysgwyr,” meddai Clare Stephens, Dirprwy Bennaeth yr ysgol.

“Mae’n helpu i sicrhau bod plant yn dod i’r ysgol gyda’r gwisg a’r offer sydd eu hangen arnyn nhw i ddysgu.

“Pan fydd teuluoedd yn gwirio a ydynt yn gymwys i gael cymorth fel hyn, mae’n helpu ysgolion i gael rhagor o gyllid, sy’n cael effaith gadarnhaol iawn ar ein dysgwyr.

“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n credu y gallen nhw fod yn gymwys i wirio gyda’u hawdurdod lleol yn awr a gwneud cais am gymorth.”

Sut i wneud cais

Mae modd gwneud cais am y grant hyd at Fai 31 y flwyddyn nesaf.

Hawliwch gymorth gyda chostau ysgol drwy fynd i wefan Llywodraeth Cymru.

“Wrth i’r misoedd oerach gyrraedd, efallai y bydd llawer o deuluoedd yn gweld bod eu plant angen côt gynnes neu esgidiau gaeaf newydd,” meddai Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru.

“Nid yw’r Grant Hanfodion Ysgol ar gyfer dychwelyd i’r ysgol yn unig.

“Gallwch ei hawlio yn ddiweddarach yn y flwyddyn os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny.

“Mae’r grant hwn yn helpu plant i fynychu’r ysgol, i gymryd rhan mewn gweithgareddau gyda’u ffrindiau, ac i oresgyn rhwystrau i gyrhaeddiad.

“Darganfyddwch a ydych yn gymwys a gwnewch gais yn awr.”