Mae Humza Yousaf, Prif Weinidog yr Alban, yn barod i gyfaddawdu tros ei strategaeth annibyniaeth er mwyn atal gwrthryfel gan aelodau’r SNP.

Daeth ei blaid ynghyd yn Aberdeen dros y penwythnos ar gyfer eu cynhadledd flynyddol, ac roedd y mater yn uchel ar yr agenda.

Yn ôl y cyfaddawd, bydd gan yr SNP fandad i drafod refferendwm â Llywodraeth y Deyrnas Unedig pe baen nhw’n ennill mwyafrif o seddi yn yr etholiad cyffredinol nesaf yn yr Alban.

Mae hyn yn golygu tro pedol ar y strategaeth wreiddiol, sef mai ennill mwy o seddi na’r un blaid arall fyddai’r gofyniad, ac nid mwyafrif clir.

Cafodd y gwelliant hwnnw ei gyflwyno gan saith o aelodau seneddol yr SNP a sawl cangen leol o’r blaid.

Y nod i’r SNP fydd ennill o leiaf 29 allan o 57 sedd Albanaidd yn Nhŷ’r Cyffredin, ac mae Humza Yousaf yn dweud mai brawddeg gyntaf maniffesto’r blaid fydd “Pleidleisiwch dros yr SNP er mwyn i’r Alban ddod yn wlad annibynnol”.

Dywed y bydd mater annibyniaeth “yn flaenllaw ac yn ganolog” i ymgyrch yr SNP yn yr etholiad cyffredinol.

Cysylltu annibyniaeth â’r argyfwng costau byw

Mae’n ymddangos bod y cyfaddawd bellach yn arwydd fod Humza Yousaf yn derbyn bod yr argyfwng costau byw yn fater sy’n uwch ar agenda Albanwyr nag annibyniaeth ar hyn o bryd.

Dywed fod y cyfaddawd, felly, yn tynnu llinell o dan y broses annibyniaeth fel bod modd i’w blaid ganolbwyntio ar faterion eraill a rhoi mwy o amser iddyn nhw ffurfio’r dadleuon eraill o blaid annibyniaeth.

Yn ôl Stephen Flynn, arweinydd yr SNP yn San Steffan, mae cyfle hefyd i ddangos bod yna “gysylltiad annatod” rhwng annibyniaeth a’r argyfwng costau byw, wrth iddo ddadlau mai anallu San Steffan sy’n gyfrifol am brisiau ynni, bwyd a morgeisi.

Mae’r gwrthbleidiau yn yr Alban yn dal i fynnu nad oes awydd am annibyniaeth yn yr Alban, ac na ddylid cynnal etholiadau ar sail un mater yn unig, ac maen nhw hefyd yn cwestiynu grym yr SNP i geisio llywio cyfansoddiad y Deyrnas Unedig gyfan.

Ar hyn o bryd, dim ond 13% o Albanwyr sy’n credu bod ennill mwyafrif o seddi’n gyfystyr â mandad i geisio annibyniaeth, yn ôl pôl gan Panelbase i’r Sunday Times.

Dim ond 15% sy’n cefnogi’r egwyddor fod ennill “y nifer fwyaf o seddi” yn ddigon i geisio annibyniaeth.

Chwalfa wleidyddol yn anochel i’r SNP?

Huw Prys Jones

Daw tymor cynadleddau’r pleidiau gwleidyddol i ben y penwythnos yma, wrth i aelodau’r SNP gyfarfod yn Aberdeen