Mae llys yn Barcelona wedi galw ar gyn-bennaeth cudd-wybodaeth Sbaen i roi tystiolaeth yn achos ysbïo ‘Catalangate’.

Roedd yr Arlywydd Pere Aragonès yn un o’r rhai gafodd eu targedu fel rhan o’r ymgyrch yn ymwneud â’r frwydr dros annibyniaeth i Gatalwnia.

Cafodd Paz Esteban ei ddiswyddo gan Lywodraeth Sbaen fis Mai y llynedd, a bydd e’n rhoi tystiolaeth i’r llys ar Ragfyr 13, y diwrnod pan fydd Aragonès hefyd yn mynd gerbron y llys.

Mae’r llys wedi gofyn am ragor o wybodaeth gan yr asiantaeth gudd-wybodaeth CNI, NSO Group sef gwneuthurwyr y feddalwedd ysbïo Pegasus, a Goruchaf Lys Sbaen i ofyn a wnaethon nhw awdurdodi’r weithred o ysbïo.

Dyma’r tro cyntaf i asiant cudd-wybodaeth roi tystiolaeth i lys fel un sydd dan amheuaeth hefyd.

Cefndir

Cafodd o leiaf 65 o arweinwyr yr ymgyrch tros annibyniaeth eu targedu rhwng 2017 a 2020 – gan gynnwys gwleidyddion Catalwnia, aelodau o Senedd Ewrop, deddfwyr ac aelodau’r gymdeithas sifil.

Mae nifer o gwynion wedi’u gwneud ers dechrau’r helynt ddaeth i’r amlwg yn nhudalennau’r cylchgrawn The New Yorker yn dilyn ymchwiliad gan CitizenLab.

Yn ôl yr ymchwil, pobol oddi mewn i Lywodraeth Sbaen oedd yn gyfrifol am ysbïo, a dyma’r helynt ysbïo mwyaf ar gofnod erioed i dynnu ar dystiolaeth.

Cafodd ffonau symudol yr unigolion eu targedu gan feddalwedd Pegasus a Candiru.

Ymhlith y rhai sydd wedi’u targedu gan ddefnyddio Pegasus o Israel mae’r newyddiadurwr Jamal Khashoggi, gafodd ei lofruddio, ac aelodau o wrthblaid Rwanda.