Roedd y cyflwynydd Sean Fletcher yn teimlo fel nad oedd ei Gymraeg ddigon da cyn gweithio ar raglen ar hanes yr iaith i S4C.
Derbyniodd Stori’r Iaith bump enwebiad yng Ngwobrau BAFTA Cymru yng Nghasnewydd neithiwr (nos Sul, Hydref 15), gan gynnwys un i Sean Fletcher fel y cyflwynydd gorau.
Lisa Jên, ei gyd-gyflwynydd ar y gyfres, ddaeth i’r brig yn y categori.
Wrth siarad â golwg360, dywedodd Sean Fletcher, sydd wedi dysgu Cymraeg, fod gweithio ar y gyfres gyda thîm Rondo wedi gwneud iddo sylwi bod “rhaid” iddo ddefnyddio’r iaith.
“Dw i’n teimlo’n falch i fod yn rhan o’r gyfres,” meddai wrth siarad yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru.
“Mae’r tîm o Rondo wedi helpu fi i weld bod fy Nghymraeg i gyda lot o gamgymeriadau – dw i ddim yn berffaith – ond rhaid i fi ddefnyddio fe a rhaid i fi gael hyder i’w ddefnyddio fe.
“Dw i’n edrych o gwmpas ac mae pobol o fy nghwmpas i efo Cymraeg perffaith.
“Cyn gwneud y rhaglen, fe wnes i deimlo fel dw i ddim yn ddigon da.
“Ond nawr dw i’n teimlo’n valid fel chi, mae’r iaith Gymraeg yn iaith fi hefyd.
“Dim fel, ‘I’m an imposter coming in not speaking good Welsh’.”
Rhoi hyder i eraill
Mae Sean Fletcher yn gobeithio bod y rhaglen yn rhoi neges i eraill nad ydyn nhw’n teimlo’n hyderus yn yr iaith.
“Dw i’n cwrdd â lot o bobol sy’n dweud, ‘My Welsh isn’t good enough’, ond wedyn dw i’n darganfod eu bod nhw’n siarad Cymraeg da ond bod nhw ddim efo hyder.
“Fy neges i iddyn nhw: defnyddia’r iaith, gwneud camgymeriadau, dim ots, jyst siarad Cymraeg.”
@golwg360 “Mae’r iaith Gymraeg yn iaith fi hefyd.”🏴 Cyfweliad gan Sean Fletcher #tiktokcymraeg #bafta #cymru #wales #cymraeg #welsh
‘Bod yn fi’n hun’
@golwg360 Derbyniodd Stori’r Iaith bump enwebiad yng Nghwobrau BAFTA Cymru yng Nghasnewydd neithiwr Lisa Jên, cyd-gyflwynwraig ar y gyfres, ddaeth i’r brig yn y categori #tiktokcymraeg #bafta #cymru #cymraeg
Y gantores, actores a’r gyflwynwraig Lisa Jên ddaeth i’r brig yn y categori Cyflwynydd Gorau am ei phennod o Stori’r Iaith, sef cyfres oedd â phenodau gan Alex Jones ac Elis James hefyd.
“Mae o’n teimlo’n grêt, gefais i gyflwyno rhaglen oeddwn i’n teimlo’n angerddol iawn amdani a gefais i fod yn fi’n hun tra’n mynd ar daith yn olrhain bob math o bethau’r unravel-io a dysgu lot,” meddai Lisa Jên wrth golwg360.
“Mae o’n deimlad braf cael BAFTA yn fy llaw.”