Roedd dwy wobr i Y Sŵn yng Ngwobrau BAFTA Cymru neithiwr (nos Sul, Hydref 15).

Daeth y ffilm, sy’n adrodd hanes dechrau sianel S4C, i’r brig fel y Ffilm Nodwedd/Teledu orau ac ar gyfer Golygu: Ffuglen gorau.

Y ffilm hon oedd wedi derbyn y nifer fwyaf o enwebiadau eleni, ac roedden nhw yn y frwydr am saith gwobr yng Nghanolfan Gynhadledda Rhyngwladol Cymru yng Nghasnewydd.

Wrth siarad am eu llwyddiant fel y Ffilm Nodwedd orau, dywed Roger Williams, awdur Y Sŵn, fod y wobr yn “coroni’r profiad” o weithio arni.

“Mae’n wych, mae’n brosiect arbennig iawn, mae’n grêt bod gwaith pawb wedi cael ei gydnabod a bod gymaint o bobol wedi mwynhau’r ffilm,” meddai wrth golwg360.

“Dyna oedd un o’r pethau braf am gynhyrchu’r ffilm yma, bod pobol wedi ymateb i’r ffilm, bod cymaint wedi mynd i’w gweld hi mewn sinemâu wedyn wedi gwylio eto ar deledu.

“Nawr mae’r ffilm wrth gwrs yn mynd ar daith ledled y byd, yn cael ei dangos mewn gwledydd eraill, felly mae’n brosiect arbennig ac mae’r [wobr] yn coroni’r profiad.”

@golwg360

Roedd dwy wobr i Y Sŵn yng Nghwobrau’r BAFTA Cymru neithiwr 📺 #tiktokcymraeg #bafta #cymru

♬ original sound – golwg360

Sefydlu’r Cynulliad – ar ffurf drama gerdd?

Mark Lewis Jones sy’n actio rhan y Ceidwadwr William Whitelaw yn y ffilm, ac roedd chwarae’r rhan yn “lot o hwyl”, meddai wrth golwg360.

“Fe wnes i fwynhau gweithio efo Lee Haven Jones [y cyfarwyddwr],” meddai.

“Rydyn ni wedi bod yn trio gweithio efo’n gilydd am amser, felly roedden ni’n falch iawn bod o wedi digwydd o’r diwedd.

“Roeddwn i’n hapus iawn pan wnes i weld y ffilm, dw i’n dod o Rhosllanerchrugog a gafodd o ddangosiad yn y Stiwt yn Rhos, felly ffantastig.”

Pe bai’r cyfarwyddwr yn gwneud ffilm arall ar unrhyw agwedd ar hanes Cymru, pa gyfnod fyddai’n ei ddewis, tybed?

“Efallai yr etholiad ar gyfer sefydlu’r Cynulliad o bosib, ar ffurf drama gerdd!” meddai Lee Haven Jones, enillodd y wobr am y golygydd ffuglen gorau.