Mae enillydd gwobr Torri Trwodd BAFTA Cymru eleni yn gobeithio y bydd y gydnabyddiaeth i’w rhaglen How This Blind Girl… yn “agor y drws i bobol eraill anabl” tu ôl iddi.

Mae’r gyfres o ddramâu byrion yn dilyn bywyd carwriaethol Ceri, sy’n ddall, yn ei hugeiniau hwyr.

Dyma’r tro cyntaf i’r dramodydd a’r actores Mared Jarman benderfynu “gadael fynd ar bopeth dw i wedi bod yn cuddio tu mewn i fi”, ac mae cael y gydnabyddiaeth am hynny’n “anhygoel”, meddai wrth golwg360.

Roedd Mared Jarman ymhlith enillwyr eraill fel Luke Evans, Lisa Jên, Taron Egerton a Rakie Ayola dderbyniodd wobrau BAFTA Cymru mewn seremoni yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd neithiwr (nos Sul, Hydref 15).

“Fe wnes i wario gymaint o fy mywyd i’n trio edrych a bihafio fel person sy’n gallu gweld,” meddai Mared Jarman.

“Am y tro cyntaf, fe wnes i fynd, ‘Na, twll! Mae rhywbeth fan hyn, fi eisiau gadael hi mas, rhoi llais i Ceri’.

“I weld hwnna ac i gael y gydnabyddiaeth am wneud rhywbeth sy’n hollol fi, mae e’n anhygoel.

“A gobeithio nawr bod e’n agor y drws i bobol eraill anabl tu ôl i fi.

“Dw i jyst yn gobeithio bod hwn yn profi bod pobol anabl yn haeddu bod ar y llwyfan yna.”

@golwg360

Mared Jarman enillodd y wobr Torri Trwodd Cymru eleni, gyda’i drama How This Blind Girl… Llongyfarchiadau Mared! #tiktokcymraeg #bafta #cymru

♬ original sound – golwg360

‘I bob merch ddall, bachgen dall, person anabl’

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Mared Jarman ei bod hi’n cyflwyno’r wobr i unrhyw berson ag anableddau sydd wedi clywed “nad ydyn nhw’n gallu gwneud rhywbeth”.

“Fel hogan fach yn cael diagnosis o gyflwr llygaid a ffeindio fy mod i’n mynd i golli fy ngolwg, roeddwn i, a phawb o’m cwmpas i, yn meddwl mai dyna oedd y diwedd,” meddai o’r llwyfan.

“Roeddwn i’n teimlo fel bod pawb arall yn cael gwneud yr hyn maen nhw eisiau ei wneud, a fy mod i eisiau gwneud hynny hefyd.

“Flynyddoedd a blynyddoedd wedyn, os nad oeddwn i’n gwneud e doedd neb arall yn mynd i wneud i fi wneud e.

“I bob merch ddall, bachgen dall, person anabl allan yna sydd wedi clywed nad ydyn nhw’n gallu gwneud rhywbeth a chael ansawdd i fywyd, mae hon i ni, achos mae hynny’n anghywir.”