Mae ennill gwobr BAFTA Cymru yn “gwbl, gwbl berffaith”, meddai’r actor a’r canwr Luke Evans wrth golwg360.

Derbyniodd yr actor, gafodd ei fagu yn Aberbargod, wobr am y rhaglen adloniant orau yn y gwobrau yng Nghasnewydd neithiwr (nos Sul, Hydref 15).

Cafodd Luke Evans: Showtime!, noson o ganu yng nghwmni sêr fel Olly Murs a Nicole Scherzinger, ei ffilmio yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, ac roedd hi’n addas iawn bod Luke Evans a chriw’r rhaglen yn ôl yno i dderbyn y wobr.

Dyma’r BAFTA cyntaf i Luke Evans, sydd wedi ymddangos mewn ffilmiau fel The Hobbit ac mewn sioeau ar yr West End, ei hennill.

“Dw i’n hapus ofnadwy i fod yma, dw i yn licio tuxedo felly mae hi wastad yn braf rhoi penguin suit ymlaen a dod allan a bod mewn ystafell yn llawn pobol drwsiadus – i gyd yn dalentog, i gyd yn llwyddo i wneud pethau anhygoel, a’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n Gymraeg!

“Fysa pethau ddim yn gallu bod yn well!”

“Dyma’r tro cyntaf erioed i fi ennill BAFTA, ac mae ennill gwobr BAFTA Cymru yn gwbl, gwbl berffaith.

“Os taw dyma’r unig wobr enilla i fyth, dw i’n hapus taw hon yw hi.”

‘Cwbl, cwbl berffaith’

Pa gân fyddai criw Showtime! yn dewis ei chanu i ddathlu, felly?

“’Calon Lân’ fwy na thebyg!” meddai Emyr Afan, cyfarwyddwr y rhaglen, gan chwerthin.

“Fysa hynny’n addas, yn bysa,” ychwanega Luke Evans.