Mae cyhoeddwyr llyfrau Cymreig yn teithio i’r Almaen yr wythnos hon i gymryd rhan yn y 75ain Frankfurter Buchmesse (Ffair Lyfrau Frankfurt).

Y ffair lyfrau hon yw’r prif leoliad yn y byd ar gyfer cynnwys digidol a phrint, ac fe fydd cyfle i gyhoeddwyr gyfarfod â phartneriaid o’r diwydiannau technoleg a chreadigol, gan gynnwys ffilm a gemau, i gyfnewid syniadau, cael ysbrydoliaeth, rhoi cynnig ar dechnolegau newydd ac i feithrin cysylltiadau.

Mae ffigurau’r llynedd yn dangos mai £429m yw trosiant blynyddol y sector cyhoeddi yng Nghymru, gyda 965 o fusnesau’n rhan o’r diwydiant, a llawer ohonyn nhw’n ficro-gwmnïau.

Rhwng 2021 a 2022, gwelodd y sector gynnydd mewn cyflogaeth o bron i 20%, gyda chyfanswm o 11,000 o bobol yng Nghymru bellach yn cael eu cyflogi.

Dan arweiniad Cymru Greadigol gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru, bydd 13 o gyhoeddwyr a sefydliadau yn bresennol yn y ffair lyfrau, gan sicrhau cynrychiolaeth gref o Gymru yn un o ffeiriau llyfrau amlyca’r byd.

Y cwmnïau fydd yn bresennol yw Atebol, Buzz Publishers, Crown House Publishing Ltd, Firefly Press, Graffeg, Graham Lawler Media and Publishing, Honno Gwasg Menywod Cymru, Lucent Dreaming, Cyhoeddi Cymru, Seren, Gwasg Prifysgol Cymru, Cyfnewidfa Lên Cymru / Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau ac Y Lolfa.

‘Adrodd stori’r sector cyhoeddi yng Nghymru’

“Rwy’n falch iawn bod gennym gynrychiolaeth mor gryf o Gymru yn bresennol yn y digwyddiad proffil uchel hwn,” meddai Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth Cymru.

“Bydd hwn yn llwyfan ardderchog i’r cyhoeddwyr a’r sefydliadau Cymreig hyn arddangos ac adrodd stori’r sector cyhoeddi yng Nghymru.

“Efallai ein bod yn fach, ond rydyn ni’n genedl nerthol wedi’i llunio gan ein pobol, wedi’n hysbrydoli gan ein lleoedd ac yn gyfochrog o ddoniau creadigol.

“Wrth edrych ar bennod nesaf y sector – rydym am gefnogi busnesau creadigol a rhoi hwb i’r diwydiant drwy gynnig mynediad i weithlu medrus a’r isadeiledd gorau, wrth greu cyfleoedd i gael mynediad i farchnadoedd byd-eang trwy deithiau masnach rhyngwladol fel Ffair Lyfrau Frankfurt.”

‘Cyfle amserol iawn’

Yn ôl Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, mae’r ffair lyfrau’n “gyfle amserol iawn” i arddangos y sector cyhoeddi Cymreig i’r byd.

“Rydym yn falch iawn o ymuno â Cymru Greadigol a’n partneriaid o’r sector cyhoeddi yn Ffair Lyfrau Frankfurt, ac i helpu i arddangos y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru ar lwyfan rhyngwladol yn y ffair gynnwys fwyaf yn y byd,” meddai.

“Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi gweld llwyddiannau eithriadol yn y sector yng Nghymru, mewn llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg ac mae hwn yn gyfle amserol iawn i hyrwyddo a dathlu’r gorau o lyfrau a chynnwys o ac am Gymru.”

Yn ôl Firefly Press, mae’r ffair yn “hwb gwych i ddyheadau masnachol ryngwladol y sector”.

“Mae cael stondin Cymru mor uchel ei phroffil yn Ffair Lyfrau Frankfurt eleni, yn dilyn llwyddiant stondin Cyhoeddi Cymru yn Ffair Lyfrau Llundain yn y gwanwyn, yn hwb gwych i ddyheadau masnach ryngwladol y sector,” meddai Penny Thomas o’r cwmni.

“Mae gan Gymru lawer o awduron, llyfrau a chyhoeddwyr gwych yr ydym yn falch iawn o’u harddangos ar stondin Cymru Greadigol.”