Mae angen gwreiddio Cymru yn stori cenhedlaeth Windrush, yn ôl dynes ifanc o Gaerdydd sy’n cyflwyno rhaglen newydd ar S4C am yr hanes.
Fe wnaeth nain a thaid Emily Pemberton fudo o Jamaica a St Kitts fel rhan o genhedlaeth Windrush, gan gwrdd a magu teulu yn Nhrelluest yn y brifddinas.
Roedd hi’n bwysig i’r ddynes 24 oed arwain ar Windrush: Rhwng Dau Fyd, meddai, gan bwysleisio pa mor bwysig ydy hi fod pobol yn rheoli’u naratif eu hunain.
“Roeddwn i wir eisiau arwain, achos mae wastad problemau gyda rhaglenni fel hyn ble mae rhywun yn arwain a dydyn nhw ddim o reidrwydd yn gwybod y stori,” meddai Emily Pemberton, sy’n gweithio llawn amser fel Cydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, wrth golwg360.
“Drwy fynnu fy mod i’n arwain arno fe, roeddwn i’n teimlo bod siawns gyda ni i drafod yr hanes a thrafod y themâu sy’n codi mewn ffordd sy’n adlewyrchu bywydau pobol yng Nghymru sydd ddim ar y sgrin drwy’r amser.”
Mae hi’n 75 mlynedd ers i gwch yr HMT Empire Windrush lanio yn Lloegr â thros 400 o bobol arni, ac ar y rhaglen fydd yn cael ei dangos ar S4C nos Sul (Hydref 22), mae Emily Pemberton yn holi rhai eraill sydd â theulu’n rhan o genhedlaeth Windrush.
Yn eu mysg mae Dom James, y rapiwr o Gaerdydd, sy’n cyfeirio at genhedlaeth Windrush yn ei fersiwn newydd o’r gân werin ‘Dacw Nghariad’.
Bydd David Lammy, Aelod Seneddol Tottenham, yn rhan o’r rhaglen hefyd, ac yn trafod araith draddododd e yn Nhŷ’r Cyffredin am y ffordd mae cenhedlaeth Windrush yn cael eu trin.
‘Rheoli’u naratif’
Drwy siarad â nifer o bobol yn ardal ei mebyd a thu hwnt, megis y gyfreithwraig Hilary Brown, mae balchder Emily Pemberton a’i chyfoedion yn y ffaith eu bod nhw’n Gymry, a’u bod nhw’n ddu, yn amlwg hefyd.
“Y pwynt yw dathlu’r gwahaniaeth, ond cofio bod pawb yn gyfartal a bod yn falch ohono fe,” meddai.
“Fi wastad yn mynd i fod yn ddu, a fi wastad yn mynd i fod yn Gymraeg.
“Mae’r hanes a be’ oedd Tinopolis eisiau ei wneud mor agos i ’mywyd i, dim jyst diddordeb, ond hanes teulu fi a sut dw i wedi cael fy magu,” meddai’r gyflwynwraig, sydd wedi gweithio rywfaint efo Tinopolis yn y gorffennol.
“Roeddwn i’n teimlo bod rhaid i fi sicrhau bod gen i ryw rôl flaenllaw ynddo fo, naill ai o flaen y camera neu tu ôl.
“Dw i’n credu’i bod hi’n bwysig bod pob person, dim ots o le maen nhw’n dod na sut maen nhw’n edrych, yn rheoli’u naratif nhw’u hunain.
“Sa i’n credu bydd pobol yn ystyried [hanes Windrush] yn hanes Cymraeg, fi’n credu bydden nhw’n ystyried e fel hanes pobol ddu, ac mae e.
“Ond wrth wraidd yr holl beth yma, dw i’n trio agor y sgwrs yn Gymraeg achos mae gymaint o bobol yn cael eu heffeithio gan y rhaglen, rhai o’r themâu – y positif a’r negyddol – maen nhw’n siaradwyr Cymraeg ac maen nhw yng Nghymru.
“Roeddwn i mo’yn rhoi ongl Gymraeg ar beth sydd fel arfer yn stori Brydeinig.”
‘Trafferth gweld wynebau newydd’
Roedd gallu arwain ar y rhaglen fel person ifanc “ychydig bach o statement hefyd”, yn ôl Emily Pemberton, oedd yn 23 oed pan gafodd y rhaglen ei chreu.
“Mae gyda ni broblemau yn y wasg o bobol brofiadol yn gwneud bob dim ac rydyn ni’n cael trafferth gweld wynebau newydd, ac wynebau ifanc yn benodol, fydden i’n dweud,” meddai.
“Ar lefel gyffredinol, roeddwn i’n meddwl bod e’n bwysig fel arbrawf i weld be’ sy’n digwydd pan ti’n rhoi’r awenau i rywun sy’n gwybod be’ maen nhw’n siarad am.
“Dw i’n teimlo fel bod hwn yn statement – rhowch yr awenau i bobol ifanc, rhowch y naratif iddyn nhw, a ti’n mynd i allu dweud rhywbeth fydd, efallai, ddim yn adlewyrchu lot o’r pethau eraill maen nhw’n rhoi allan, ond mewn ffordd dda.”
Doedd gan Emily Pemberton ddim sgript wrth fynd ati i greu’r rhaglen, oni bai am ei chwestiynau i’r Aelod Seneddol David Lammy, ac mae natur “ychydig bach yn rough” y rhaglen yn adlewyrchu’r broses honno, meddai.
“Dw i wedi bod ar brosiectau ble mae pobol yn bwydo i chdi be i ddweud neu’n rili llywio’r sgwrs ac mae e’n creu rhywbeth sydd ddim yn authentic.
“Dw i’n credu yn y wasg Gymraeg bod bob dim mor polished, bron ffurfiol.”
- Bydd Windrush: Rhwng Dau Fyd ar S4C nos Sul, Hydref 22 am 8 o’r gloch.