“Heblaw am Marred fyswn i ddim yn sgwennu heddiw.” Dyna eiriau Marlyn Samuel, y nofelydd adnabyddus, am y golygydd sydd newydd ymddeol o Wasg y Bwthyn.

Mae cyfweliad swmpus gyda Marred Glynn Jones yn rhifyn wythnos yma o gylchgrawn Golwg.

Gyda’i holynydd, yr ysgolhaig Gerwyn Wiliams, newydd ddechrau yn y swydd, mae hi’n gadael y wasg ar “seiliau cadarn” – gan fod y wasg newydd lwyddo i ennill statws ‘Gwasg Rhaglen’ y Cyngor Llyfrau rhwng 2024 a 2028.

Mae’n golygu y bydd y wasg fach o Gaernarfon yn un o’r pedwar prif dŷ cyhoeddi yng Nghymru, yn cael cyllideb bloc i gyhoeddi llyfrau, yn hytrach na gorfod gwneud ceisiadau am grantiau llyfrau unigol.

Bydd hyn yn arbed gwaith i’r Golygydd Creadigol newydd, gan y byddai llawer o’i hamser yn arfer mynd ar lunio ceisiadau grant unigol i bob llyfr.

“Mae o’n teimlo ei fod o yn adeg iawn i fynd rywsut,” meddai Marred Glynn Jones.

“Rydan ni wedi cyrraedd ryw safon, a bydd y Bwthyn yn parhau wedyn, efo Meinir (Pierce Jones), efo Gerwyn, ac mae Mari Emlyn am fod yn ein helpu felly bydd y tri ohonyn nhw fel dream-team.”

Ym mis Medi 2021, rhoddodd Gwasg y Bwthyn y gorau i argraffu yn fewnol, a symud y swyddfa i’r Maes yng Nghaernarfon.

Cafodd bwrdd rheoli newydd ei greu, ac ymhlith yr aelodau mae Dylan Roberts, Merfyn Morgan, Gwawr Maelor, Einir Young, Ruth Owen, Aled Islwyn, Gareth Evans-Jones, a Sion Gwyn.

“Maen nhw’n gefnogol iawn, i gyd o gefndiroedd gwahanol, a diddordeb mewn llyfrau – mae hynna’n help,” meddai Marred Glynn.

“Mae yna seiliau cadarn. Mae’n anodd. Dw i’n teimlo bod yn rhaid i mi fynd rywbryd.”

“Mae’r broses dyfarnu’r grant rhaglen ar gyfer 2024-28 newydd ddod i ben ac rydyn ni’n falch iawn bod Gwasg y Bwthyn ymhlith y cyhoeddwyr fydd yn derbyn grant rhaglen ar gyfer llyfrau i oedolion o Ebrill 2024 ymlaen,” meddai llefarydd ar ran y Cyngor Llyfrau.

Y Cyhoeddwyr Rhaglen Cymraeg ar gyfer 2024-28 yw Gwasg y Bwthyn, Carreg Gwalch, Y Lolfa, a Chyhoeddiadau Barddas (oedolion) ac Atebol, Gwasg Carreg Gwalch, Rily, Dref Wen, a’r Lolfa (llyfrau plant).

Fel cyfanswm, cronfa Grant Rhaglen y Cyngor Llyfrau ar gyfer y cyhoeddwyr Cymraeg yw £334,600 yn ystod 2024-25.

Dyledus

Mae Marlyn Samuel, awdur a cholofnydd cylchgrawn Golwg, sydd wedi cyhoeddi sawl nofel gyda Gwasg y Bwthyn gan gynnwys Milionêrs a Cwcw, yn teimlo dyled i’w chyn-olygydd.

“Mae fy nyled yn fawr iddi hi,” meddai.

“Y hi roddodd y cyfle i mi. Gofynnodd i mi gynnig syniad am nofel i Wasg Gwynedd bryd hynny (cyn iddi symud ymlaen at Wasg y Bwthyn).

“Roedd hi’n hynod o frwdfrydig ac yn hynod o gefnogol bob amser.

“Roedd ganddi’r ddawn i weld a synhwyro’r potensial mewn egin awdur.”

Awdur arall y daeth Marred Glynn o hyd iddi yw Catrin Lliar Jones, gyhoeddodd ei nofel gyntaf, Adar o’r Unlliw, yn 2020.

Mae’r awdur yn cofio cwrdd â hi am y tro cyntaf ar ddiwrnod coffa i Olwen Dafydd yng Nghanolfan Tŷ Newydd, Llanystumdwy.

“Roeddwn i’n sefyll yn ffenest fawr y llyfrgell, yn edrych i lawr ar y bobol ar y lawnt ac yn breuddwydio, am wn i, am fod yn sgwennwr go iawn,” meddai.

“Daeth Marred ata’ i a gofyn ai fi oedd y Catrin oedd tu cefn i Llefrith, Cariad a Calpol, rhyw flog am rianta ro’n i wedi bod yn rhygnu ymlaen efo fo.

“Mi wnes i ddysgu’r diwrnod hwnnw bod gan Marred allu arbennig i wneud i bobol gredu ynddyn nhw ei hunain.

“Mae natur warchodol Marred yn mynd ymhell tu hwnt i waith golygydd, ac mae hi wastad wedi talu sylw arbennig i’r person tu cefn i’r geiriau.

“Does gen i ddim amheuaeth, heb anogaeth Marred, y byddwn yn dal i sefyll wrth y ffenestr honno yn Nhŷ Newydd yn breuddwydio am fod yn sgwennwr go iawn, yn hytrach na bod wrthi’n sgwennu fy ail nofel.”

Mae’r golygydd hithau’n falch o fod wedi darganfod Catrin Lliar Jones.

“Enw hollol newydd, sgrifennu’n grêt, a llyfr poblogaidd iawn,” meddai am Adar o’r Unlliw.

“Hawdd i’w ddarllen, ond mae yna ruddin iddo fo. Dyma’r math o lyfr rydan ni’n chwilio amdano fo.”

Y llyfr olaf iddi ei olygu yw nofel ddiweddaraf Gareth Evans-Jones, Y Cylch, sy’n cael ei lansio ar noson Calan Gaeaf ym Mangor.

“Dw i’n falch iawn ohono fo, achos ddaeth o aton ni ar brofiad gwaith, yn fyfyriwr ifanc,” meddai.

“Ac mae o wedi cadw cysylltiad efo ni, ac mae o wedi bod yn driw iawn i’r Bwthyn.”

  • Darllenwch gyfweliad llawn gyda Marred Glynn Jones am ei hynt a’i helynt yn y byd cyhoeddi yn rhifyn wythnos yma o gylchgrawn Golwg

“Dw i’n ofnadwy, dw i’n meddwl am lyfrau yn fy nghwsg”

Non Tudur

“Y nod i mi wastad oedd cyhoeddi llyfrau yr oedd pobol eisiau ei ddarllen”

Un drws yn cau, un arall yn agor

Non Tudur

Mae’r darlithydd Cymraeg Gerwyn Wiliams ar fin camu i fyd cyhoeddi llyfrau