Ar ôl 34 mlynedd, mae Gerwyn Wiliams, cyn-bennaeth Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, yn gadael y byd academaidd am fyd cyhoeddi.

Mae newydd gael ei benodi’n Olygydd Creadigol Gwasg y Bwthyn i olynu Marred Glynn Jones, fu yn y swydd am dros ddegawd.

Bu golwg360 yn ei holi…


Sut deimlad oedd cau drws eich swyddfa yn Adran Gymraeg Prifysgol Bangor am y tro olaf ar ôl gweithio yno am dros 34 mlynedd?

Teimlad chwerwfelys. Mae’r coridor hwnnw ar lawr uchaf Prif Adeilad y Celfyddydau yn llawn cwmwl tystion – y diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones, fy mhennaeth cyntaf a’r un a’m penododd i’m swydd, yn ei swyddfa ym mhen draw’r coridor; Mrs Gwyneth Williams, gweinyddwraig driw’r Adran, y drws nesaf iddo; yna swyddfa’r diweddar Athro Gwyn Thomas, un o’m harwyr llenyddol ers fy arddegau … Mi fydd hi’n chwith garw ar ôl fy nghydweithwyr dawnus ac ymdroddedig ar hyd y blynyddoedd a hefyd y cenedlaethau o fyfyrwyr y cefais y fraint o’u dysgu ers diwedd y 1980au.

Beth yw’r atgof felysaf o ddarlithio ac o’r cyfnod ym Mangor?

Mae sawl atgof yn aros. Achlysur a roddodd lawer o foddhad a balchder proffesiynol imi tra oeddwn yn bennaeth adran cyn y cyfnod clo oedd cael ein dyfarnu’n Ysgol y Flwyddyn – mae prifysgolion wrth eu boddau’n ailenwi adrannau’n ysgolion ac yna’u henwi’n adrannau drachefn! – a hynny drwy’r brifysgol gyfan yn seremoni gwobrau blynyddol y myfyrwyr. Roedd darllen eu sylwadau yn tystio i’r gofal bugeiliol neilltuol yr oedden nhw wedi ei gael gennym ni fel staff yn brofiad arbennig. Braint brin arall oedd cais un o’m cyn-fyfyrwyr annwyl, Sioned Erin Hughes, imi ei chynrychioli yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2018 lle roedd hi wedi ennill y Goron. Byddai’n ganmil gwell gen i fod wedi ei gweld hi ei hun yn bresennol i dderbyn ei gwobr, ond fe’i rhwystrwyd gan afiechyd creulon rhag gwneud hynny. Ond diolch byth, mi oeddwn i ar y llwyfan fel rhan o’r Orsedd yn Nhregaron i’w gweld hi’n derbyn y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd.

Sut mae astudiaethau’r Gymraeg yn argoeli i’r dyfodol, yn eich barn chi?

Mae’r her sy’n wynebu’r Gymraeg fel pwnc addysg uwch yn un y mae’r iaith a’r diwylliant yn ei hwynebu’n fwy cyffredinol – yr un fath â’r byd darlledu neu gyhoeddi – sef i barhau’n fyw ac yn gyfredol, yn gyfoes ac yn berthnasol. Er bod rhai agweddau ar y ddarpariaeth wedi parhau’n gyson, nid pwnc prifysgol sydd wedi aros yn ei unfan mo’r Gymraeg ond un deinamig. Felly bu’r datblygiadau cwricwlaidd tra bûm ym Mangor yn niferus a bu ymateb cyson i newid. O ganlyniad, mae cwrs gradd yn y Gymraeg yn rhoi cyfleoedd amrywiol i astudio’r iaith a’i llenyddiaeth o’r cyfnodau cynnar hyd at faterion sosio-ieithyddol y dwthwn hwn; mae’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau sgriptio ar gyfer y sgrin fach a hefyd drafod ffuglen gynhyrfus y presennol … Does dim lle i fod yn hunanfodlon na gorffwys ar rwyfau – mae heriau recriwtio sylweddol o hyd – ond o ran cyflogadwyaeth, dylid pwysleisio bod ystod y meysydd gwaith sy’n gofyn am gymhwyster yn y Gymraeg yn ehangach nag y buont erioed.

Ydych chi’n edrych ymlaen at ddechrau yn Olygydd Creadigol gyda Gwasg y Bwthyn?

Ar ôl blynyddoedd o brysurdeb proffesiynol, fynnwn i ddim bod yn segur felly rwy’n edrych ymlaen yn arw at gael ymuno’n rhan-amser â thîm bach gweithgar Gwasg y Bwthyn fel Golygydd Creadigol. Rwy’n amau bod golygu yn fy DNA – bûm ynglŷn â chyfnodolion fel Llais y Lli, Y Ddraig a Tafod y Ddraig tra oeddwn yn fyfyriwr yn Aberystwyth, fy swydd gyntaf oedd fel is-olygydd Barn, bûm yn cydolygu Taliesin gyda’r diweddar Athro John Rowlands yn ogystal â Cyfres y Meddwl a’r Dychymyg Cymreig i Wasg Prifysgol Cymru’n ddiweddarach a hefyd Ysgrifau Beirniadol. Rhywbeth arall a’m denodd at y swydd yw’r ffaith fod y wasg wedi ei lleoli yng Nghaernarfon lle rwy’n byw ers rhyw ddwy flynedd a hanner bellach.

Pa agweddau ar waith golygu sy’n apelio atoch chi?

Un o’r agweddau ar fy swydd ddarlithio a fwynheais fwyaf oedd cael tiwtora a mentora awduron ar eu prifiant, boed fyfyrwyr ifanc neu hŷn. Bu cael darllen pwt o waith creadigol gan fyfyriwr newydd a dweud ‘Waw!’ wrth adnabod talent drawiadol yn brofiad gwefreiddiol. Gweld y myfyriwr yna wedyn yn datblygu, yn llwyddo ac yn denu sylw darllenwyr. Mae’r cymell a’r cefnogi, yr awgrymu a’r cynghori a fu’n rhan o’m rôl fel athro ysgrifennu creadigol hefyd yn nodwedd ar waith golygydd creadigol.

Mae gennych esgidiau reit fawr i’w llenwi. Gwnaeth Marred Glynn Jones gyfraniad helaeth, gan ddarganfod lleisiau ac awduron newydd, fel Catrin Lliar Jones a Gareth Evans-Jones. A fyddwch chi’n parhau â’r gwaith hwnnw?

Rhyngddynt, mae Golygyddion Creadigol Gwasg y Bwthyn – Marred Glynn Jones yn ogystal â Meinir Pierce Jones y byddaf yn ymuno â hi – wedi gwneud gwaith arwrol yn dwyn o’r wasg lyfrau mor boblogaidd a llwyddiannus â Casa Dolig Rhian Cadwaladr a Pridd Llŷr Titus – Llyfr y Flwyddyn 2023. O wasg fach, fu dim yn fach am ei champ na’i huchelgais! Mae parhau i ddenu lleisiau newydd i’r wasg yn bendant ymhlith y blaenoriaethau ynghyd â pharatoi arlwy mor amrywiol a chyfoethog o deitlau y bydd darllenwyr yn awchu i gael gafael arnyn nhw.

Pa fath o awduron yr hoffech eu cymell a’u meithrin gyda Gwasg y Bwthyn?

Mae llyfrau ffuglennol a ffeithiol wedi bod yn nodwedd amlwg ar arlwy Gwasg y Bwthyn ac yn sicr mi fyddwn i am i hynny barhau. Rhoi llwyfan i ‘ysgrifennu newydd’ boed gan awduron ifanc neu hŷn. Dal ati i gyhoeddi llyfrau newydd gan rai o’r awduron sefydledig llwyddinnus a gysylltir â’r wasg fel Sonia Edwards, Bethan Gwanas a Mari Emlyn tra hefyd yn cyflwyno awduron newydd sbon danlli fel Seran Dolma y cyhoeddwyd ei nofel arloesol Y Nendyrau dros yr haf a Malachy Edwards ac Ian Richards y mae eu llyfrau ar fin cyrraedd y siopau. Un o gryfderau’r wasg yw cynnal yr amrywiaeth yna – yr amrywaeth teitlau a’r amrywiaeth awduron.