Bydd y gwaith o baratoi at Eisteddfod Genedlaethol yn dechrau gyda chyfarfod cyhoeddus nos Fercher, Hydref 18.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Theatr Glanrafon Coleg Cambria am 6.30yh.
Bydd y cyfarfod yn gyfle i bobol leol ddangos eu cefnogaeth a gwirfoddoli i ddod yn rhan o’r trefniadau, gyda’r gymuned yn rhan ganolog o’r gwaith trefnu.
Mae enwebiadau ar gyfer swyddogion Pwyllgor Gwaith wedi agor, ac mae modd ymgeisio neu enwebu rhywun am swydd y Cadeirydd, Is-gadeirydd Strategol, Is-gadeirydd Diwylliannol, Cadeirydd y Gronfa Leol ac Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith.
Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio neu enwebu yw 5 o’r gloch ar ddydd Llun, Hydref 23.
Mae cyfle hefyd i ymuno â’r pwyllgorau amrywiol fydd yn rhan o baratoi ar gyfer yr ŵyl.
Bydd y pwyllgorau diwylliannol yn cyfarfod am y tro cyntaf yn syth ar ôl y cyfarfod cyhoeddus, a bydd pawb yn dod ynghyd yn Ysgol Plascoch fore Sadwrn, Hydref 28 am 10.30yb i ddechrau ar y gwaith o ddewis cystadlaethau, beirniaid a chyfeilyddion er mwyn creu Rhestr Testunau Eisteddfod 2025.
Bydd y gwaith codi arian ac ymwybyddiaeth, ynghyd â’r cyfarfodydd strategol, yn cychwyn ddechrau Tachwedd, gyda manylion i’w cyhoeddi ar wefan a chyfryngau cymdeithasol yr Eisteddfod.
Siaradwyr newydd
Bydd y cyfarfod cyhoeddus yn y Gymraeg, gyda chyfieithydd ar y pryd ar gael, gyda’r Eistedfod yn arbennig o awyddus i ddenu dysgwyr a phobol sy’n cychwyn ar eu taith iaith i ymuno â phwyllgorau amrywiol, ac i ddefnyddio’r misoedd nesaf fel cyfle arbennig i ymarfer yr iaith.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at gychwyn y gwaith yn ardal Wrecsam,” meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod.
“Rwy’n gwybod bod pawb yn edrych ymlaen at groesawu’r Eisteddfod i’r ardal unwaith eto ymhen dwy flynedd, a bod llawer o bobol ar draws y dalgylch yn awyddus i ymuno â ni i wireddu wythnos a phrosiect cofiadwy.
“Rydyn ni’n awyddus i ddenu trawsdoriad eang o bobol gyda phob math o ddiddordebau ac arbenigedd i fod yn rhan o’r tîm, gyda’r profiadol a’r ifanc yn cydweithio er mwyn creu prosiect a gŵyl fydd yn sicr o ddenu cystadleuwyr ac ymwelwyr atom yn eu miloedd.
“Edrychwn ymlaen am ddeunaw mis hapus yn gweithio ar draws y dalgylch, a gall unrhyw un sydd â diddordeb i fod yn rhan o’r tîm gofrestru ar-lein neu ddod i’r cyfarfod cyhoeddus yn Wrecsam.
“Dyma’r tro cyntaf i ni ymweld â’r ardal ers 2011, ac mae llawer iawn wedi newid yn ystod y cyfnod yma, gyda phroffil Wrecsam yn hynod uchel ar hyn o bryd.
“Rydyn ni’n gobeithio y byddwn ni’n croesawu rhai o dîm Eisteddfod 2011 yn ôl atom, ac yn denu criw newydd ac ifanc i ymuno â ni dros y misoedd nesaf, wrth i ni weithio yn y gymuned ac ar drefnu’r ŵyl ei hun.
“Mae’r neges yn syml – mae croeso mawr i bawb.”