Mae S4C a’r Urdd ymhlith y rhai sy’n cynnal digwyddiadau arbennig i gyd-fynd â gêm rygbi Cymru yn erbyn Georgia yng Nghwpan y Byd yn Naoned yn Llydaw.
Bydd S4C a sianel deledu FR3 yn cydweithio ar ddarllediadau o gig Clwb Ifor Bach nos Sadwrn (Hydref 7).
Mae’r gig yn nodi dathliad Clwb Ifor Bach yn 40 oed, ac fe fydd yn cael ei gynnal ar ôl y gêm yn Stade de la Beaujoire.
Bydd y gig yn digwydd yn adeilad Stereolux, ac yn cymryd rhan o Gymru fydd Adwaith, Local a’r rapwyr Sage Todz a Luke RV.
Hefyd yn perfformio fydd y band lleol Ile de Garde a’r band Llydewig Ebel Elektrik, wnaeth chwarae yn Tafwyl yng Nghaerdydd eleni.
Bydd FR3 yn ffrydio’r gig yn fyw, tra bydd rhaglen yn cynnwys uchafbwyntiau’r noson yn cael ei darlledu gan S4C yn hwyrach yn y mis, ac yn cael ei chyflwyno gan Lloyd Lewis.
Dyma’r tro cyntaf i gwmni teledu o Gymru a chwmni teledu Ffrengig weithio ar y cyd ar raglen gerddorol, ac mae’n rhannol bosib oherwydd cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Dinas Caerdydd.
Yn ôl Gwenllian Anthony o’r band Adwaith, bydd y gig yn “gyfle arbennig” iddyn nhw, gan nad ydyn nhw wedi perfformio yn Llydaw o’r blaen.
“Ni wedi chwarae mewn nifer o wledydd eraill yn Ewrop,” meddai.
“Mae’r cynulleidfaoedd wastad yn groesawgar ac yn mwynhau canu Cymraeg – dyw clywed canu mewn iaith arall yn ddim byd gwahanol iddyn nhw.”
Bydd modd gwylio’r gig yn fyw drwy ymweld â https://www.france.tv/france-3 neu France 3 Bretagne – YouTube.
Dywed Mael Le Guennec, pennaeth rhaglenni yn yr iaith Lydaweg ar FR3, fod modd “dod â rhaglenni o safon i gynulleidfa eang” a hwythau’n “ddarlledwr iaith leiafrifol”.
Bydd y rhaglen uchafbwyntiau ar S4C hefyd yn dangos deuawd arbennig gyda Lleuwen, y cerddor o Riwlas sydd bellach yn byw yn Llydaw.
Bydd Lleuwen yn canu gyda’r cerddor Llydewig Brieg Guerveno.
“Mae hi’n fendigedig medru canu a chlywed Llydaweg ar deledu yng Nghymru,” meddai Lleuwen.
“Rydan ni mor ffodus yng Nghymru o fedru clywed a mwynhau’r iaith Gymraeg yn ddiwylliannol, mae hi dipyn mwy gwahanol yn Llydaw.
“Byddaf yn canu cân o’r enw ‘Aderyn Lapous’ – cân yn Gymraeg a’r Lydaweg, a’r tebygrwydd rhwng y ddwy iaith yn amlwg drwy’r geiriau.”
Chwarae yn Gymraeg
Yn y cyfamser, mae staff yr Urdd wedi bod yn cynnal sesiynau ‘Chwarae yn Gymraeg’ mewn ysgolion yn Lorient (Hydref 2-3) ac yn Naoned (Hydref 5-6).
Dros yr wythnos, mae staff yr Urdd wedi bod yn cyflwyno Cymru a’r Gymraeg i dros 800 o blant.
Wedi’i greu gan yr Urdd, mae ‘Chwarae yn Gymraeg’ yn rhaglen sy’n cyflwyno’r iaith a’r diwylliant Cymraeg i blant mewn ffordd hwyliog, trwy chwarae a gweithgareddau amrywiol.
Mae’r gweithgareddau’n canolbwyntio ar naill ai chwaraeon neu ddiwylliant, gan ganiatáu i blant ddysgu y tu allan i ddysgu traddodiadol yn yr ystafell ddosbarth.
Mae’r prosiectau hyn wedi’u hariannu gan Adran Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru, fel rhan o weithgareddau Blwyddyn Cymru yn Ffrainc i hyrwyddo Cymru a’r Gymraeg yn rhyngwladol.