Mae Criced Cymru a Menter Iaith Abertawe yn cydweithio i gynnal sesiynau hyfforddi criced trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd y prosiect yn dechrau yr wythnos hon gyda phobol ifanc y ddinas.

Mae’r sesiynau wedi’u cefnogi gan Chance to Shine, elusen genedlaethol sy’n cynnal cyfleoedd i blant chwarae, dysgu a datblygu trwy griced.

Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal bob nos Fawrth (5yh-6yh), ar safle Canolfan Hamdden Penlan, a byddan nhw’n agored i fechgyn a merched wyth i bymtheg oed.

Bydd cyfleoedd hefyd i bobol ifanc wirfoddoli gyda’r sesiynau, er mwyn datblygu eu sgiliau hyfforddi, gyda’r gobaith o ddatblygu mwy o hyfforddwyr criced sy’n siarad Cymraeg ar gyfer y dyfodol.

O bêl-droed i griced

Daw’r prosiect diweddaraf hwn i Fenter Iaith Abertawe yn dilyn llwyddiant prosiect tebyg gyda chlwb pêl-droed y ddinas y llynedd.

Bryd hynny, buon nhw’n gweithio gyda’r Elyrch i gynnig sesiynau tebyg trwy gyfrwng y Gymraeg ym maes pêl-droed.

Dywed Tomos Jones, Prif Swyddog Menter Iaith Abertawe, eu bod nhw’n “edrych ymlaen at gynnig mwy o gyfleoedd yn y maes newydd yma”.

“Mae’r elfen o alluogi’r chweched dosbarth i ddatblygu eu sgiliau hyfforddi hefyd yn rhan bwysig o’r prosiect a fydd o fudd hirdymor i’r gamp yn yr ardal,” meddai.

Denu cricedwyr newydd

Un nod sydd gan gorff Criced Cymru wrth gynnal y prosiect hwn yw denu cricedwyr y dyfodol i chwarae.

“Mae’r cyfle i ddarparu gweithgareddau criced trwy gyfrwng y Gymraeg, am ddim, yn ardal Penlan ar y cyd â’r Fenter yn adeg gyffrous, gyda’r gobaith i ddenu cyfranogwyr newydd i chwarae criced am y tro cyntaf,” meddai Rhodri Jones, Swyddog Cymunedau de-orllewin Cymru y mudiad.

“Mae’r cynllun yn cryfhau’r gwaith cymunedol arall rydym yn cynnal yng nghanol tref Abertawe gyda chymunedau ethnig,” meddai.

“Mae modd cofrestru am le trwy gysylltu â rhodri.jones@cricketwales.org.uk”