Y Cynghorydd Elwyn Vaughan fydd ymgeisydd Plaid Cymru yn Sir Drefaldwyn a Glyndŵr yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Cafodd y cynghorydd, sy’n cynrychioli ward Glantwymyn ar Gyngor Sir Powys ac yn arweinydd y grŵp ar y Cyngor, ei ddewis fel ymgeisydd etholaeth Sir Drefaldwyn a Glyndŵr ar ôl hystingau yn y Drenewydd a’r Waun.

Fe wnaeth o sefyll fel ymgeisydd Plaid Cymru yn etholiadau’r Senedd yn 2021, gan ddod yn ail i’r Ceidwadwyr.

Mae sedd Sir Drefaldwyn a Glyndŵr yn un newydd sy’n cynnwys yr hen Sir Drefaldwyn a rhannau o Dde Clwyd.

‘Llanast’ y Ceidwadwyr

Wrth ddweud ei bod hi’n “fraint” cael ei gadarnhau’n ymgeisydd gan Bwyllgor Gweithredol Plaid Cymru yn genedlaethol, eglura Elwyn Vaughan mai ei flaenoriaethau fydd yr amgylchedd, cynaliadwyedd cymunedol, a chefnogi agwedd entrepreneuraidd yn yr etholaeth.

“Yn wyneb Plaid Geidwadol sydd wedi gwneud llanast o bopeth, y rheswm pam fod Powys, fel pob cyngor, yn wynebu toriadau i wasanaethau cyhoeddus a phwysau, pam fod ein pobol yn wynebu graddau chwyddiant uchel, argyfwng costau byw a morgeisi uwch, pam fod y sector gyhoeddus yn wynebu toriadau pellach ar ôl degawdau o doriadau, ydy’r llanast economaidd sydd wedi’i greu gan y Torïaid mewn grym,” meddai.

Mae Elwyn Vaughan wedi bod yn rhan o sawl ymgyrch leol, gan gynnwys un i achub safle’r ambiwlans awyr yn y Trallwng.

“Sir Drefaldwyn ydy’r unig etholaeth yng Nghymru sydd erioed wedi ethol Aelod Seneddol Llafur, felly dw i’n gofyn i bawb sy’n rhannu gwerthoedd tebyg, sydd eisiau cyfiawnder i’n cymunedau, eisiau i rywun sefyll dros yr ardal, sy’n rhoi pobol a chymunedau gyntaf i ymuno efo fi,” meddai wedyn.

“Rhowch fenthyg eich cefnogaeth i ni i sicrhau bod gennym ni lais blaengar cryf i Sir Drefaldwyn a Glyndŵr – mae cryfder mewn undod, gadewch i ni greu newid.”