Mae Liz Saville Roberts a Mabon ap Gwynfor, Aelod Seneddol ac Aelod o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, yn annog y cyhoedd i gefnogi’r apêl i achub adeilad hanesyddol Y Tŵr ym Mhwllheli.
Mae cynllun cyfranddaliadau cymunedol ar y gweill i helpu i sicrhau pryniant yr adeilad yng nghanol Pwllheli er bydd y gymuned leol.
Mae Menter Y Tŵr am godi isafswm o £400,000 i brynu, ailddatblygu ac ailagor Y Tŵr fel gwesty, tafarn, bwyty a chanolbwynt cymunedol.
Mae’r Tŵr wedi’i leoli’n ganolog ar stryd fawr Pwllheli, ac ar un adeg roedd yn westy prysur yn cynnal llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol.
Drwy ddod yn gyfranddaliwr, bydd gan bob aelod lais yn y ffordd y caiff y fenter gymunedol ei rhedeg.
Bydd y cynnig cyfranddaliadau ar agor am 6 wythnos, ac yn cau ar Dachwedd 16.
‘Cyfle unigryw i Bwllheli’
Yn ôl Liz Saville Roberts, mae’r fenter gymunedol yn “rhoi cyfle unigryw i Bwllheli”.
“O fewn ychydig oriau i sefydlu Menter Y Tŵr, daeth cymuned Pwllheli ynghyd a chodi £60,000 ar gyfer y blaendal,” meddai.
“Mae pobol yn frwd dros ddiogelu’r adeilad hanesyddol hwn fel canolbwynt ar y stryd fawr.
“Mae gan Fenter y Tŵr weledigaeth gadarnhaol ac uchelgeisiol i ddatblygu’r adeilad i fod yn ganolbwynt cymunedol ffyniannus, sy’n eiddo i’r gymuned, ar gyfer y gymuned.
“Os hoffech chi fod yn rhan o’r prosiect cyffrous hwn a chael dweud eich dweud am sut mae’r fenter yn cael ei rhedeg, yna mae gennych chi tan ganol Tachwedd i wneud cais i ddod yn gyfranddaliwr.”
‘Anadlu bywyd newydd i’r tirnod hanesyddol’
Yn ôl Mabon ap Gwynfor, bydd barn bobol leol yn llywio’r broses o wneud penderfyniadau, a byddai diogelu’r adeilad i’r dref yn gyfle i “gadw ei threftadaeth ac anadlu bywyd newydd i’r tirnod hanesyddol hwn yng nghanol y dref”.
“Mae angen angor ar bob cymuned a stryd fawr, a dyma mae Menter y Tŵr yn ei gynnig,” meddai.
“Trwy fuddsoddi yn Y Tŵr, byddwch yn cefnogi creu swyddi lleol, hyrwyddo twristiaeth a hybu’r economi leol, gan sicrhau bod arian a gynhyrchir yn cael ei wario’n lleol.
“Rwy’n gobeithio y bydd pobl leol yn arbennig yn ystyried dod yn gyfranddalwyr, ac felly’n chwarae rhan allweddol i ddiogelu’r adeilad hanesyddol hwn a dod ag ef yn ôl i galon y gymuned unwaith eto.”
‘Gweledigaeth o ffyniant’
“Mae gan y gymuned weledigaeth o ffyniant y gwyddom y gellir ei wireddu drwy ailddatblygu Gwesty’r Tŵr fel llwyfan ar gyfer adfywio cymunedol ac economaidd yn ein tref arbennig,” meddai Elin Hywel, trysorydd Menter y Tŵr.
“Mae’r potensial mor gyffrous.
“Aeth cynnig cyfranddaliadau Menter y Tŵr yn fyw ar y 1af o Hydref, gellir dod o hyd i fanylion mewn siopau lleol ac ar ein gwefan: www.ytwr.cymru
“Byddwn yn annog pawb sy’n gallu i gymryd rhan!”