Rhys Tudur, cynghorydd Llanystumdwy, a Richard Glyn Roberts, cynghorydd Abererch, sy’n ystyried cyfraniad dwy ardal i ddyfodol y Gymraeg…
Mae wardiau Abererch a Llanystumdwy ymysg nifer fechan o ardaloedd lle mae dros 70% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Nid oes ond prin ddeugain o’r ardaloedd hyn yn weddill yn y byd. Mae iddynt gyfraniad unigryw i amrywiaeth ddiwylliannol y ddynoliaeth. Maen nhw’n prinhau o gyfrifiad i gyfrifiad; erbyn hyn mae bron y cwbl ohonyn nhw yng Ngwynedd ac mae’n eglur bod eu parhad fel ardaloedd Cymraeg yn y fantol. Fel cynghorwyr sydd wedi cael y fraint o gynrychioli’r ardaloedd yma, diogelu gwead y gymdeithas Gymraeg weddillol sydd flaenaf yn ein meddyliau wrth gloriannu pob polisi a phenderfyniad.
Credwn fod parhad yr ardaloedd hyn hefyd yn hollbwysig i’n hetholwyr ac amlygwyd yr ewyllys hon i barhau yn ystod cyfnod yr Eisteddfod. Braf oedd gweld cefnogaeth yr ardaloedd i’r Eisteddfod a’r addurno na welwyd mo’i debyg cyn yr ŵyl ym Moduan.
Wedi’r Eisteddfod, rydym dan orfod i ystyried gwaddol yr ŵyl yn wyneb realiti beunyddiol ein hardaloedd. Tueddiadau byd-eang yw’r diboblogi gwledig, y trefoli a’r crynhoi ar gyfoeth sy’n gefndir i’r shifft iaith yn lleol. Mae’n annhebygol y gellir gwrthweithio’r tueddiadau cyffredinol hyn yn effeithiol ar wastad lleol ond gellir gwneud y Gymraeg yn rhan anhepgor a diosgoi o fywyd bob dydd yr ardaloedd hyn. Ar hyn o bryd, yn hytrach nag ymroi’n effeithiol i gymathu mewnlifiad Angloffon, mae cyfundrefnau llywodraeth leol yng Ngwynedd yn darparu ar ei gyfer nes bod y gymdeithas Gymraeg ei hiaith yn cael ei chymathu ganddo. Mae ein cyfundrefnau a’n sefydliadau yn yn rhy simsan i wrthweithio shifft iaith. Ym maes addysg, bodlonnir ar bolisi sy’n caniatáu i 40% o blant ysgolion uwchradd y sir osgoi astudio drwy’r Gymraeg. Ym maes tai, er bod canran uchel o’r tai sy’n cael eu prynu a’u meddiannu o’r newydd yn aelwydydd mewnfudol, caniateir codi mwy o dai yn unol â gweithdrefnau llac a diffiniad o angen lleol sy’n jôc ymysg brodorion. Ym meysydd cyflogaeth a chynllunio, lle dylai cynllunio ieithyddol fod yn ganolog i strategaethau a chynlluniau datblygu, nid yw ond atodiad dyheadol a digyfeiriad. Mae hyn oll yn gwneud inni gwestiynu a ydys yn sylweddoli beth mae achub y Gymraeg yn ei feddwl.
Fel yr oedd hi ar gae’r Eisteddfod, felly hefyd y dylai fod yng Ngwynedd. Dylid cyflwyno polisïau cadarn i ddiogelu’r hyn sy’n weddill o’n gwareiddiad Cymraeg. Ni ddylid medru osgoi’r Gymraeg yma a dylid pwysleisio bod dewis dod i’r ardaloedd hyn yn gyfystyr â dewis y Gymraeg.