Yr wythnos ddiwethaf, fues i draw ar gampws Plas Coch Prifysgol Wrecsam. Synnais wrth grwydro o gwmpas pa mor gyflym a di-ffwdan roedd y newid enw ac ailfrandio’n digwydd.

Roedd y geiriau ar wyneb allanol yr adeilad yn barod wedi newid, wrth gwrs, cyn y newid swyddogol (Medi 25). Ond tu fewn, mi roedd y manylion bychain hefyd yn cydymffurfio.

Draw yn y llyfrgell, gwelais un o fy ffrindiau yn sefyll yn y dderbynfa yn gwisgo’i fleece newydd nefi, hefo’r logo newydd arni. Roedd hi wrthi’n tywys myfyrwyr newydd draw i’r ddesg i mofyn eu cardiau, gyda’r logo newydd yn ei le, a laniardau’r brifysgol ar eu newydd wedd.

Roedd hi’n hoffi’r brandio newydd – barn glywais i gan sawl aelod o staff, yn enwedig rheiny sy’n ymwneud â marchnata. Cawsom sgwrs ddifyr, ac erbyn i mi adael y llyfrgell, roedd gen i laniard, ac roeddwn wedi cyfnewid fy ngherdyn Glyndŵr am un Wrecsam.

Fel onomastegydd, dwi wastad wedi ymddiddori yn enw(au)’r brifysgol yma, sydd wedi ei blethu â fy atgofion cynharaf a thrwy gydol fy mywyd hyd heddiw. Amserol, felly, yw synfyfyrio ar y datblygiad diweddaraf, gan ei osod o fewn cyd-destun ehangach, hanesyddol.

Derbynfa Prifysgol Wrecsam

Daearyddiaeth, tirlun, a meddylfryd

Mae’r statws dinas yn newydd (Medi 1, 2022), ac enw’r sir yn gymharol newydd hefyd (Ebrill 1, 1996), ond mae Campws Plas Coch wastad wedi bod o fewn tref Wrecsam ers iddo gael ei adeiladu yn y 1950au.

Tasai’r sefydliad wedi trawsnewid yn brifysgol yn y 1990au, efallai fysa hi wedi gwneud mwy o synnwyr i’w galw’n Brifysgol Clwyd – fy marn i yn unig!

Ond, yn wir, wrth bori trwy bamffled am hanes sefydlu’r brifysgol, mae balchder yn chwyddo ynof fi wrth weld yr holl ymroddiad gan bobol ar hyd a lled gogledd-ddwyrain Cymru i greu rhywbeth arbennig i’r cenedlaethau i ddod.

Ond Wrecsam yw enw’r ardal lle mae’r brifysgol erbyn hyn, ac mae meddylfryd y gymuned leol bellach wedi’i siapio gan hyn (yn hytrach na Chlwyd); felly ‘Prifysgol Wrecsam’ oedd yr enw amlwg.

Enwi ar ôl enwogion o fri

Ond, meddech chwi, onid oes prifysgolion eraill wedi’u henwi ar ôl arwyr hanesyddol? Oes tad, megis Prifysgol John Moores, Lerpwl. Cafodd ei henwi ar ôl y dyn busnes a chyn-gyfarwyddwr a chadeirydd Clwb Pêl droed Everton.

Cafodd yr enw ei ddewis er mwyn gwahaniaethu rhyngddi hi a Phrifysgol Lerpwl, oedd yn bodoli yn barod. Ond un brifysgol yn unig sydd yn Wrecsam.

A beth am anrhydeddu’r arwr ac ysgolhaig Cymreig hanesyddol hwnnw oedd mor gefnogol o addysg yng Nghymru? Wel, nid yw’r traddodiad hwnnw’n un hir na chlir, dweud y gwir.

Yn 1975, unodd colegau Dinbych, Caertrefle, Kelserton a Chei Connah i greu Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru (North East Wales Institute of Higher Education – NEWI), a dyna fuodd hi tan 2008, pan gafodd ei hailenwi’n Brifysgol Glyndŵr, yn sgil cael statws prifysgol.

A waeth i mi fod yn onest, wrth bori trwy hanes sefydlu’r brifysgol – o weledigaeth Glyndŵr hyd heddiw – teimlwn fod sawl person arall y gallai’r brifysgol fod wedi’u dewis i’w hanrhydeddu hefo’r enw… a mentraf ddweud fod rhai ohonyn nhw yn fwy teilwng.

‘Coleg y bobol’

Mae’n wir fod y stori yn dechrau yn 1404, pan gyhoeddodd Owain Glyndŵr ei fwriad i sefydlu dwy brifysgol yng Nghymru – un yn y gogledd a’r llall yn y de. Ond aeth y cynlluniau ddim pellach oherwydd y brwydrau milwrol hefo Lloegr.

Sylwch hefyd nad Wrecsam yn benodol ddywedodd o. Nid tan yr 1880au y cafodd y freuddwyd o sefydlu prifysgol yng ngogledd Cymru ei gwireddu, ac i Fangor yr aeth hi beth bynnag.

Ar yr adeg honno, roedd cefnogaeth frwd dros brifysgol yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ac ymhlith y cefnogwyr adnabyddus roedd yr awdur Daniel Owen o’r Wyddgrug.

Ar ôl y siom o golli allan i Fangor, penderfynwyd sefydlu ‘Ysgol Wyddoniaeth a Chelf Wrecsam’, gydag ‘Arian wisgi’, sef treth ar gwrw a gwirodydd – gan gynnwys Wrexham Lager. ‘Coleg y bobol’ fyddai hwn.

Ac wrth i’r brifysgol dyfu yn yr 1920au a’r ’30au, roedd mawr ddiolch i William Aston, dyn busnes lleol ac un o lywodraethwyr yr Athrofa, am ddarparu cytiau yn Caxton Place cyn iddyn nhw adeiladu ‘Coleg Aston’ (Campws Plas Coch heddiw) yn y 1950au, gyda William Aston yn gosod y garreg sylfaen. Cafodd neuadd hyfryd o fewn y campws ei henwi’n ‘Neuadd William Aston’.

Ffocws leol

Felly, mae’r brifysgol wedi’i hailenwi, ac mi rydw i yn un sy’n hapus iawn hefo’r enw, gan ei fod yn hoelio sylw a ffocws pawb ar yr ardal leol a’i chymuned.

Mi roedd yna ryw sôn yn nyddiau cynnar Prifysgol Glyndŵr am gampysau yn Llundain a llefydd eraill ymhell o hen sir Clwyd.

Ac er fod gan syniadau fel hyn eu lle, efallai yn y dyfodol dwi’n credu taw dyma gyfle Wrecsam a’i phobol i gael y sylw a’r ymroddiad maen nhw’n ei haeddu gan eu prifysgol. Perthynas atgyrchol, wrth iddyn nhw, ill dau, fynd trwy gyfnod o ailenwi, ailddiffinio, aildanio ac adfywio.