Mae taflenni gafodd eu dosbarthu gan David TC Davies, ac a arweiniodd at ymchwiliad gan yr heddlu, wedi cael y bai ar ôl i gwmni dynnu’n ôl o’r gwaith o adnabod safleoedd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr.
Cafodd y cyhuddiad yn erbyn Ysgrifennydd Cymru ei wneud gan y cynghorydd sy’n arwain y gwaith o chwilio am safleoedd newydd posib ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn Sir Fynwy, wrth i Gabinet Llafur y Cyngor Sir gymeradwyo agor ymgynghoriad ar dri safle gafodd eu henwi ganddyn nhw fis diwethaf.
Dywed y Cynghorydd Paul Griffiths mai’r rheswm pam fod cost yr ymgynghoriad, fydd yn cael ei redeg gan gwmni annibynnol, wedi cynyddu i £10,000 o £4,000 yn gynharach yn yr haf yw nad yw cwmni roedd gan y Cyngor “ddealltwriaeth” gyda nhw i gydweithio bellach yn barod i fod ynghlwm.
Cefndir
Fis Gorffennaf, roedd David TC Davies, Aelod Seneddol Ceidwadol Mynwy, wedi cyhoeddi taflenni’n gofyn ‘A hoffech chi weld safle i Deithwyr drws nesaf i’ch tŷ?’
Cawson nhw eu rhannu wrth i’r Cyngor ddechrau cynnal gwrandawiadau cyhoeddus ar safleoedd posib, oedd bryd hynny’n cynnwys ardaloedd ger Comin Mitchell Troy.
Fe wnaeth Travelling Ahead, gwasanaeth eirioli a rhan o elusen TGP Cymru sy’n cydweithio â Sipsiwn, Roma a Theithwyr ledled Cymru, gondemnio’r taflenni fel rhai allai gael “effaith wrth greu casineb hiliol”.
Dywedodd Heddlu Gwent eu bod nhw’n ystyried cynnwys y taflenni, ond fe wnaethon nhw gadarnhau ddechrau mis Awst na fydden nhw’n destun ymchwiliad pellach, a dywedodd David TC Davies nad oedd e am wneud “unrhyw ymddiheuriad” amdanyn nhw.
Costau’n cynyddu
Ond yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Mercher (Hydref 4) oedd wedi cymeradwyo agor ymgynghoriadau ar ddau safle newydd, yn Fferm Bradbury a Fferm Oak Grove yng Nghrug ger Cil-y-coed, a safle gafodd ei nodi’n flaenorol yng Nghlos Langley ym Magwyr, roedd gofyn i’r Cynghorydd Paul Griffiths egluro’r cynnydd yng nghost yr ymgynghoriad.
Wnaeth y Cynghorydd Paul Griffiths ddim cyfeirio’n uniongyrchol at yr aelod seneddol, ond fe ddywedodd e wrth y Cynghorydd Richard John, arweinydd yr wrthblaid Geidwadol oedd wedi gofyn iddo “egluro’r cynnydd sylweddol”, fod cwmni roedd y Cyngor wedi bwriadu cydweithio â nhw wedi tynnu’n ôl.
“Roedd gennym ni ddealltwriaeth â Planning Aid Cymru, ond o ganlyniad i ddigwyddiadau yn y gymuned, taflenni’n cael eu cylchredeg yn gofyn ‘Ydych chi eisiau byw drws nesaf i Deithwyr’, cafodd y cwmni eu troi i ffwrdd rhag gweithio yn ardal Sir Fynwy,” meddai.
“Mae gan weithredoedd ganlyniadau, a dyna ganlyniad y weithred honno.”
Dim ardal Lafur wedi’i hadnabod
Fe wnaeth y Cynghorydd Richard John, sy’n cynrychioli ward Mitchell Troy a Thryleg, gwestiynu hefyd pam nad oedd yr un ward Llafur wedi’i adnabod ym mis Gorffennaf nac yn ystod y chwilio diweddaraf, gan dynnu sylw at dri safle sydd mewn wardiau sy’n cael eu cynrychioli gan gynghorwyr Ceidwadol ac Annibynnol.
“Mae Llafur yn cynrychioli hanner y wardiau ar y Cyngor, ydyn ni i fod i gredu mai cyd-ddigwyddiad yw hyn?” gofynnodd.
Gofynnodd y Cynghorydd Paul Griffiths, yr aelod dros Gas-gwent a Larkfield, a oedd e’n ystyried bod hwn yn “gwestiwn sy’n deilwng ohono’i hun”.
Dywedodd ei fod e wedi gofyn ystod o gwestiynau wrth ystyried safleoedd posib.
“Yr un cwestiwn wnes i ddim ei ofyn gan nad oedd e wedi fy nharo i fel un pwysig, oedd pa blaid wleidyddol sy’n cynrychioli’r safle hwnnw.
“Dw i ddim yn gwybod, nac yn poeni, a dw i ddim yn credu bod y teuluoedd o Deithwyr allai ddod i lenwi’r safle, yn poeni chwaith.”
Ychwanegodd dirprwy arweinydd y Cyngor fod y cyhuddiad o “jerimandro” yn “un twp”.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Griffiths fod y Cabinet wedi ymateb i alwad y pwyllgor craffu trawsbleidiol i ddechrau’r broses eto, gan eu bod nhw wedi ailystyried pob safle dan eu perchnogaeth a’r rheiny oedd wedi’u cyflwyno’n flaenorol ar gyfer datblygiad preswyl posib ac nad oedden nhw wedi’u hystyried yn flaenorol.
Ymgynghoriad
O ganlyniad, cafodd y safleoedd yng Nghrug eu hadnabod sy’n rhan o’r hyn mae’r Cyngor wedi’i alw’n safle strategol Dwyrain Cil-y-coed ar gyfer hyd at 735 o gartrefi newydd yn eu cynllun datblygu lleol newydd.
Bydd yr ymgynghoriad yn gofyn a ddylid cynnwys y safleoedd yn y cynllun, fydd yn destun rhagor o graffu cyhoeddus ac a fydd yn gorfod cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a’r Cyngor llawn.
Caiff yr holl safleoedd eu hystyried yn rhai allai fod yn addas ar gyfer hyd at chwe lle ond, fel unrhyw safle yn y cynllun datblygu, byddai’n destun cais cynllunio llawn cyn y gallen nhw gael eu datblygu – fydd yn digwydd “nifer o flynyddoedd i lawr i lein”, yn ôl y Cynghorydd Paul Griffiths.
Dywedodd fod y Cyngor wedi asesu’r angen am ddeg o lefydd dros gyfnod y cynllun sy’n rhedeg hyd at 2033, ac nid yn unig fod ganddyn nhw ddyletswydd gyfreithiol i adnabod llefydd ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr ond “byddwn i’n awgrymu cyfrifoldeb moesol i’w darparu nhw”.
Diffyg mynediad
Gofynnodd y Cynghorydd Ceidwadol Lisa Dymock, y mae ei ward yn cynnwys Crug, sut roedd y safleoedd wedi cael eu hadnabod heb “fynediad addas”, ac am adborth gan deuluoedd o Sipsiwn a Theithwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Griffiths fod swyddogion wedi ymweld â’r safle, a’u bod nhw’n fodlon y gall fod mynediad o’r heolydd, ond y byddai’r ymgynghoriad cyhoeddus yn cynhyrchu rhagor o wybodaeth.
Dywedodd y bydden nhw hefyd yn cysylltu â’r grŵp o gynrychiolwyr Sipsiwn a Theithwyr yn ystod yr ymgynghoriad, ond nad yw e wedi bod mewn cysylltiad uniongyrchol â’r teuluoedd lleol.
“Mae’r teuluoedd hyn wedi’u gadael yn agored gan y broses hon, ac yn teimlo’u bod nhw’n agored, a dw i ddim am ychwanegu at hynny,” meddai.
“Dw i wedi gadael y sgwrs i swyddogion sydd â chysylltiad â nhw.”
Fe wnaeth y Cabinet gefnu’n swyddogol ar y safleoedd ar Gomin Mitchell Troy a Threfynwy, ynghyd â Dancing Hill, Undy oedd dan ystyriaeth yn flaenorol, a byddan nhw hefyd yn ystyried unrhyw safleoedd dan berchnogaeth breifat allai ddod ymlaen, a’r posibilrwydd o ystyried a allai safleoedd presennol teuluoedd o Sipsiwn a Theithwyr gael caniatâd cynllunio.