Mae disgwyl y bydd Rhun ap Iorwerth yn defnyddio’i araith gyntaf yng Nghynhadledd Plaid Cymru yn arweinydd y blaid i osod ei agenda o “ddechrau adeiladu’r sylfeini cryfaf posibl” ar gyfer Cymru annibynnol.

Yn ei araith i Gynhadledd Flynyddol Plaid Cymru yn Aberystwyth brynhawn Gwener (Hydref 6), mae disgwyl y bydd yn addo arwain plaid ar gyfer Cymru gyfan.

Mae disgwyl iddo ddweud hefyd fod gan y Blaid “genhadaeth ganolog yn ymwneud â chefnogi potensial Cymru” a’i fod yn credu bod gan Gymru’r potensial i “ffynnu fel cenedl annibynnol wedi’r cyfan”.

Mae disgwyl y bydd creu cyfleoedd cyfartal yn ganolbwynt arall yn ei araith, gyda’r nod o ddileu tlodi plant a “gadael i’n pobol ifanc gyrraedd eu potensial” yn codi fel pynciau amlwg.

Bydd y Blaid hefyd yn gobeithio denu graddedigion yn ôl i Gymru trwy sicrhau bod gyrfaoedd cyffrous yma trwy brentisiaethau a “thrwy fesurau arloesol”.

“Chwyldro gofal iechyd”

Mae cyfrifoldebau amgylcheddol ac “arloesi fel cenedl werdd” yn debygol o fod yn bwnc amlwg arall, ynghyd â’r angen i greu “chwyldro gwirioneddol mewn gofal iechyd ataliol”.

Mae disgwyl hefyd y bydd Contract Canser Plaid Cymru er mwyn cyflymu diagnosis a gwella cyfraddau goroesi, yn cael ei nodi.

Yn ogystal, mae disgwyl iddo yn ategu galwad y Blaid am Awdurdod Datblygu Cymru ar gyfer yr 21ain Ganrif, er mwyn mynd i’r afael â’r “cysgod hir o ddad-ddiwydianeiddio” sydd wedi arwain at gyflogau isel a diffyg swyddi.

Bydd y Blaid hefyd yn gobeithio mynd i’r afael â’r ffaith mai Cymru oedd yr olaf o blith gwledydd y Deyrnas Unedig o ran proffidioldeb ei busnesau bach a chanolig y llynedd.

Mae disgwyl iddo ddweud: “Mae fy marn ar sut mae angen inni gefnogi busnes yn adlewyrchu fy uchelgais ar gyfer Cymru mewn sawl ffordd.

“Wrth i San Steffan gilio, gadewch i ni wneud yn siŵr bod Cymru’n estyn allan.

“Dyma fy ngweledigaeth ar gyfer annibyniaeth – cenedl sy’n datgan ei lle yn y byd – hyderus, uchelgeisiol, cydweithredol a rhyngwladol. Rwyf am wneud mwy nag erioed i sicrhau bod ‘Brand Cymru’ yn cael ei adnabod ledled y byd fel nodwedd o ansawdd, dyfeisgarwch a rhagoriaeth.”

“Sylfeini cryfaf posibl” ar gyfer annibyniaeth

Mae’n debygol y bydd pwyslais ar ddiwygio’r systemau sy’n cynnal, yng ofalus ac yn addysgu’r Cymry er mwyn “adeiladu’r sylfeini cryfaf posibl ar gyfer Cymru annibynnol”.

Bydd Rhun ap Iorwerth yn mynegi ei farn yn glir nad yw’r Ceidwadwyr na’r Blaid Lafur yn San Steffan wir yn poeni am anghenion Cymru.

Mae disgwyl y bydd yn condemnio “cyni moesol” y Ceidwadwyr a’r arian sydd yn ddyledus i Gymru, “a thwll o £772m yn y cyllid gefnogodd rai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig”.

Bydd hefyd yn condemnio’r Ceidwadwyr am droi eu cefn ar y “bobol sy’n ffoi o rai o lefydd mwyaf enbyd y byd”.

Bydd yn traddodi ei araith yng nghynhadledd flynyddol y Blaid yn Aberystwyth toc ar ôl 3 o’r gloch.