Mae cadeirydd Dyfodol i’r Iaith yn dweud bod Bil y Gymraeg ac Addysg “yn hollol gamarweiniol”.

Yn ôl Heini Gruffudd, mae’r ddeddfwriaeth fel ag y mae hi’n “ymarfer swyddfa” i geisio cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr mewn unrhyw ffordd bosib.

Wrth siarad â golwg360, dywed mai’r “drwg” yn y Bil yw ei fod “yn canolbwyntio’n ormodol” ar addysg Gymraeg mewn ysgolion Saesneg, “a hynny heb fanylu ar ba gefnogaeth ariannol sydd i alluogi’r ysgolion yma i ddysgu’r iaith”.

“Gwall mawr y Bil yw nad oes unrhyw gyfeiriad o gwbl at ysgolion cyfrwng Cymraeg, nac ysgolion trochi cynnar,” meddai.

Mae’r Bil yn diffinio addysg Gymraeg fel dysgu Cymraeg fel pwnc yn yr ysgol, p’un a yw’n ysgol cyfrwng Cymraeg neu Saesneg.

Dywed Heini Gruffudd fod hyn “yn hollol gamarweiniol”.

“Ac mae’r holl fil yn ymddangos fel pe bai e’n ymarfer swyddfa gan weision sifil, sydd yn meddwl ar bapur y gallan nhw drawsnewid sefyllfa’r Gymraeg drwy annog y Gymraeg mewn ysgolion Saesneg heb wynebu’r realiti o ddysgu Cymraeg mewn ysgolion Saesneg,” meddai.

Ychwanega fod y weithred gan Lywodraeth Cymru o gynnwys y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn “lol”, gan fod nad yw’r targed ei hun “yn diffinio beth yw siaradwr Cymraeg”.

“Roedd Mark Drakeford mewn pwyllgor yn y Senedd wythnos diwethaf yn dweud bod pawb yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg,” meddai.

“A hynny oherwydd eu bod nhw’n gallu dweud ‘Bore da’ a ‘Diolch’.”

Dywed fod hyn yn crynhoi’r “holl anhawster”, a bod y diffiniad gan Mark Drakeford “yn bell o safonau digonol” i gynyddu nifer y siaradwyr rhugl a naturiol.

Os nad yw’r athrawon yn “frwd”, gwell “peidio dysgu Cymraeg o gwbl”

Dywed Heini Gruffudd ei fod yn “cydymdeimlo” â phryderon athrawon ac undebau ynglŷn â’r hyn mae’r Bil am ei orfodi arnyn nhw.

Dywed NAHT Cymru fod y mwyafrif o’u haelodau’n “gwneud toriadau sylweddol i adnoddau, yn torri oriau staff ac, mewn rhai achosion, gweithwyr er mwyn mantoli eu cyllidebau”.

Maen nhw’n dadlau bod rhaid mynd i’r afael â’r “argyfwng presennol cyn y gallwn ddechrau cymryd camau tuag at gynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion”.

“Rwy’n cydymdeimlo â thipyn o’r pethau mae’r undebau Saesneg wedi’u dweud,” meddai Heini Gruffudd.

“Wnawn ni fyth gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn ysgolion Saesneg heb fod yna gydymdeimlad nac awydd i wneud hynny.

“Oni bai bod yr athrawon yn frwd, well i chi beidio dysgu Cymraeg o gwbl.”

Effaith negyddol ar ysgolion cyfrwng Cymraeg

Dywed Heini Gruffudd mai’r elfen “fwyaf gwallgof” yn y Bil yw’r ffaith ei fod “yn rhoi dyletswydd ar bob corff llywodraethu yng Nghymru, gan gynnwys ysgolion Saesneg, i ddiffinio sut maen nhw’n darparu addysg Gymraeg”.

“Bydd Llywodraeth Cymru wedyn yn gallu dweud bod addysg Gymraeg ar gael ym mhob ysgol yng Nghymru,” meddai.

Dywed fod hyn am “gymysgu rhieni yn llwyr”, fydd yn arwain at “siom” wrth iddyn nhw sylweddoli “bod ysgolion Saesneg yn gallu rhoi addysg Gymraeg”.

“Ychydig iawn o blant sydd yn dod allan o ysgolion Saesneg sydd yn rhugl,” meddai.

“Mae yna rai sydd yn dod allan gyda Chymraeg gwych, ond prin iawn ydy’r rheini wrth gwrs.”

Dywed mai’r unig ffordd o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg “rhugl a naturiol” yw agor mwy o ysgolion Cymraeg, a hynny ar raddfa lawer uwch na’r hyn sydd wedi’i weld ar draws y wlad yn y blynyddoedd diwethaf.

Ychwanega y bydd rhaid cael rhagor o ymgyrchu dros addysg Gymraeg yng Nghymru pe bai Bil y Gymraeg ac Addysg yn cael ei gadarnhau fel ag y mae.

Roedd gorymdaith ar Faes yr Eisteddfod ym Mhontypridd i alw am fwy o fynediad i blant yn Rhondda Cynon Taf at addysg Gymraeg ar ôl symud lleoliad Ysgol Pont Siôn Norton.

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.