Mae penderfyniad Llywodraeth Lafur San Steffan i ildio rheolaeth dros Ynysoedd Chagos “yn bygwth diogelwch cenedlaethol y Deyrnas Unedig”, yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Mae Andrew RT Davies wedi cyhuddo’r Prif Weinidog Syr Keir Starmer a David Lammy, yr Ysgrifennydd Tramor, o “danseilio buddiannau Prydain yn ddifrifol”.

Daw’r penderfyniad i ddychwelyd sofraniaeth yr ynysoedd yng Nghefnfor India i Fawrisiws ar ôl mwy na hanner canrif, a thros bedair blynedd o drafodaethau.

Ymhlith yr ynysoedd mae Diego Garcia, sy’n cael ei defnyddio fel canolfan filwrol y llynges ac awyrennau bomio gan Lywodraeth yr Unol Daleithiau, a bydd canolfan y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau yn parhau ar yr ynys.

Mae disgwyl i’r ddwy wlad gau pen y mwdwl ar y cytundeb yn fuan.

Bydd y Deyrnas Unedig yn cynnig pecyn cymorth ariannol i Fawrisiws, gan gynnwys taliadau blynyddol a buddsoddiad mewn isadeiledd.

Bydd y Deyrnas Unedig yn sicrhau gweithrediad y safle milwrol ar Diego Garcia am 99 mlynedd yn y lle cyntaf.

Dicter

Er bod y Deyrnas Unedig a Mawrisiws yn canu clodydd y cytundeb, mae rhai o drigolion yr ynys yn anfodlon, gan nad oedd eu harweinwyr yn rhan o’r trafodaethau, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw’n “ddi-rym” ac yn “ddi-lais”.

Ers tro, mae Llywodraeth Mawrisiws yn dweud eu bod nhw wedi cael eu gorfodi i ildio Ynysoedd Chagos er mwyn ennill ei hannibyniaeth o’r Deyrnas Unedig yn 1968, gyda chytundeb arall wedi’i lofnodi gyda’r Unol Daleithiau’n dawel bach i sicrhau rheolaeth dros Diego Garcia.

Bryd hynny, roedd y Deyrnas Unedig wedi ymddiheuro ac addo dychwelyd yr ynysoedd i Fawrisiws ar yr adeg briodol.

Er gwaethaf cryn wrthwynebiad dros y blynyddoedd diwethaf gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, fe wnaethon nhw wrthod dychwelyd yr ynysoedd wedi’r cyfan cyn i Brexit eu gorfodi nhw i weithredu.

‘Ideoleg flaengar radical’

“Mae’r penderfyniad hwn [i ddychwelyd yr ynysoedd] yn bygwth ein diogelwch cenedlaethol,” meddai Andrew RT Davies.

“Mae canolfan filwrol strategol bwysig wedi cael ei rhoi yn nwylo Mawrisiws, sydd wedi’i halinio â Tsieina.

“Wrth iddyn nhw ymhyfrydu yn eu hideoleg flaengar radical, mae Keir Starmer a David Lammy wedi tanseilio buddiannau Prydain yn ddifrifol.”