A hithau’n Fis Ymwybyddiaeth Canser y Fron, mae dynes o Landwrog gafodd ddiagnosis y llynedd yn annog menywod eraill i wirio’u bronnau’n rheolaidd.

Fis Hydref y llynedd, ar ôl ymweld â’r doctor ynglŷn ag annwyd oedd arni ers cryn amser a digwydd sôn bod ganddi frech ar ei bron dde, cafodd nyrs bractis olwg ar fronnau Nia Roberts a chanfod lwmp ar ei bron chwith – rhywbeth ddaeth “allan o nunlle”, meddai.

“Mi oedd o’n sioc anferth mynd i mewn i drafod un peth a digwydd sôn am rywbeth arall, ac mi newidiodd yr apwyntiad yn llwyr,” meddai wrth golwg360.

“Do’n i ddim wedi bod yn dda, a methu deall pam doeddwn i ddim yn gwella.

“Dw i ddim yn gwybod os oedd hynny rywbeth i wneud â’r peth, ond mi oedd gen i deimlad fod rhywbeth ddim yn iawn.

“Mi oeddwn i’n gwybod fod rhywbeth ddim yn iawn gyda fy mronnau ers peth amser, ond mi oeddwn i wedi bod yn eu checio nhw, ond heb ddarganfod lwmp.”

Ar ôl tair wythnos o “uffern” yn aros i fynd am brofion, cafodd hi wybod y diwrnod hwnnw fod y doctoriaid yn amau bod ganddi ganser, ond fod angen disgwyl am y canlyniadau i fod yn siŵr.

Wrth aros am ganlyniadau’r profion, dywedodd wrth ei rhieni beth oedd yn digwydd, oedd yn “anodd ofnadwy”.

‘Brwydro drosof fi fi fy hun’

Erbyn diwedd mis Tachwedd y llynedd, cafodd Nia Roberts wybod fod ganddi ganser ar ddwy ran o’i bron – newyddion gododd “fraw mawr” arni, meddai.

“Mi oedd yna drafod wedyn ynglŷn â beth oedd yn mynd i ddigwydd nesa’, a dyma nhw’n dweud mai tynnu’r lwmp yn y mis Ionawr fydden nhw.

“Ond mi wnes i ddweud ’mod i ddim yn hapus efo hynny.

“Mi wnes i roi fy rhesymau, a brwydro drosof fi fi fy hun a dweud beth oeddwn i eisiau, ac felly mi wnes i ofyn iddyn nhw godi’r fron yn llwyr.”

Mae hi’n cofio’i modryb – chwaer ei thad – yn mynd drwy’r un profiad dros ugain mlynedd yn ôl, ac yn cofio trafod gyda hi am godi’r fron yn llwyr.

Dywedodd bryd hynny, pe bai’n digwydd iddi hi, mai codi’r fron fyddai’r opsiwn fyddai hithau hefyd yn ei gymryd.

“Mae pethau wedi datblygu gymaint; mae tynnu lwmp yn gallu bod yn fwy na digon, ond a finnau efo dau [lwmp], roeddwn i’n eithaf penderfynol nad oeddwn i eisiau’r fron arna’ i bellach.

“Felly, mi wnes i ddweud yn eithaf clir, ac mi wnaethon nhw barchu hynny a chytuno.

“Mi ges i’r sioc wedyn o’r doctor yn dod yn ôl a dweud bod slot mewn wythnos.

“Felly, mi ges i ddiagnosis un dydd Iau, ac wedyn wythnos gyntaf mis Rhagfyr, mi es i i fewn i gael mastectomi.”

Cemotherapi

Cafodd Nia Roberts wybod fod y canser wedi lledu i’r chwarennau lymff, a dewisodd gael ail lawdriniaeth i’w tynnu.

Roedd hi’n ymwybodol o’r cychwyn y byddai’n rhaid iddi dderbyn triniaeth cemotherapi “rhag ofn”.

Cychwynnodd ar ei chwe rownd ym mis Chwefror eleni, a gorffen y driniaeth ym mis Mai.

“Ryw fis i bum wythnos ar ôl y llawdriniaeth, mi ges i’r cemotherapi yn syth, a wedyn mynd trwy’r cold cap sydd yn effeithio ar wallt. Mi oedd hwnnw’n dipyn o beth.

“Mae’r cemotherapi ei hun yn rywbeth oedd yn codi ofn arna’ i.

“Mi oeddwn i ofn beth oedd o’n ei wneud i fy nghorff i.

“Mi o’n i’n gallu ymdopi efo’r llawdriniaethau, rhoi bocs o’u cwmpas nhw, a dweud, ‘delio efo hwnna a symud ymlaen’.

“Mi oedd y llun oedd gen i o’r cemotherapi yn fy mhen i pan wnes i gychwyn yn rywbeth oedd yn codi ofn mawr arna’ i.

“Ac er fy mod i’n ymwybodol o bobol eraill oedd wedi bod drwy’r cemotherapi, doeddwn i erioed wedi bod yng nghwmni rhywun a ddim yn ymwybodol beth fyddai’n ei wneud i mi.”

Er gwaetha’r ofnau, mae hi wedi “ymdopi’n wyrthiol” â chemotherapi, ac yn pwysleisio bod modd cael cyfnodau da yn ystod y driniaeth.

“Mi oedd gen i’r darlun yma fy mod i am fod yn fy ngwely, yn methu gwneud dim byd am chwe mis.

“Ond doedd o ddim fel yna, ac mi oeddwn i’n awyddus i bobol eraill weld bod modd mynd allan am fwyd, bod modd mynd ar wyliau bach, a bod bywyd drwyddo yn gallu digwydd.”

Flog

Cofnododd Nia Roberts ei thaith gyda chanser y fron ar fideo, yn y gobaith o helpu menywod eraill sydd yn mynd drwy brofiad tebyg, ac mae’n rywbeth y byddai wedi hoffi ei weld pan gafodd hithau ddiagnosis.

Prin iawn oedd yr adnoddau oedd ar gael i’w helpu a’i dysgu hi am yr hyn roedd hi’n ei brofi, yn enwedig yn y Gymraeg, meddai.

Nid darllen gwybodaeth ar sgrin oedd ei angen arni ar y pryd, ac felly roedd hi’n teimlo ei bod hi “ar goll” ac nad oedd ganddi neb i siarad â nhw yn ei hiaith ei hun.

“Mi oedd yna ddau ddewis o ran beth fyswn i wedi gallu ei wneud yn y cyfnod cyntaf yna, sef mynd i dwll du a chau fy hun i ffwrdd oddi wrth y byd, neu agor allan a siarad am y peth.

“[Siarad] ydi’r dewis wnes i, achos mae o’n gwneud i mi deimlo’n well fod pobol yn gwybod, ac os ydi o’n helpu rhywun arall fy mod i’n gallu eu helpu nhw, yna mae hynny’n bwysig i mi.”

Roedd cael ffocws yn bwysig iawn iddi yn ystod y cyfnod, ac roedd hi’n bwysig iddi ei bod hi’n cadw ei phlant yn brysur fel nad oedden nhw’n colli allan, a’i bod hithau’n gweithio ychydig dros y cyfnod.

Roedd canolbwyntio ar gofnodi’r daith mewn flog hefyd yn help i’w gyrru hi yn ei blaen.

Wrth hyrwyddo ei flog ar ddiwrnod cyntaf Mis Codi Ymwybyddiaeth Canser y Fron, mae Nia Roberts wedi derbyn ymateb “anhygoel” ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Mae llwyth o bobol wedi gyrru [neges] ata i, ac mae lot o’r bobol sydd wedi fy nghario i ar hyd y daith wedi gwneud sylwadau.

“Dw i jyst yn gobeithio fod o’n rywbeth sydd wedi dangos i bobol sut i fyw drwyddo fo.”

Pwysig gwirio bronnau

Yn ôl Nia Roberts, gall fod yna “nerfusrwydd mawr” ynghlwm â chanser y fron, ond mae hi’n pwysleisio pa mor bwysig ydi gallu siarad yn agored amdano.

“Mae’r ffaith ei fod o wedi fy nharo i wedi amlygu’r ffaith ei fod o’n digwydd yn amlach o lawer na beth mae rhywun yn ei feddwl, felly mae’n rhaid i ni allu siarad amdano,” meddai, gan annog menywod i wirio’u bronnau’n rheolaidd ac i ddilyn cyfarwyddiadau sydd ar gael ar-lein.

“Wnes i ddysgu wrth ei gael o fod yna fideos allan yna sydd yn dangos yn well sut i wirio bronnau, ac un peth fyswn i’n licio ydi bod merched yn mynd i sbïo arnyn nhw rŵan.

“Un peth dw i’n ei ddweud wrth bawb ydi, mi oedd gen i nodyn yn fy nghalendr yn fisol i wirio y tanc gas, ond doedd gen i ddim nodyn i wirio fy mronnau.

“Roedd hynny’n wirion ar y naw, felly fyswn i’n dweud wrth unrhyw un sydd efo ffôn neu galendr i’w roi o mewn bob mis.”